Neidio i'r prif gynnwy

Dwyieithrwydd

Pwysigrwydd Defnyddio Iaith eich Aelwyd

Yn achos nifer gynyddol o blant sy'n dechrau'r ysgol yn y DU, nid yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Efallai mai Pwyleg, Rwmaneg, Cwrdeg neu Fwlgareg yw iaith eu teulu, neu hyd yn oed un o blith yr ieithoedd niferus eraill sy'n bodoli yn ein cymuned leol. Pan fydd y plentyn yn cychwyn yr ysgol neu'r feithrinfa, efallai mai hynny fydd eu profiad go iawn cyntaf o'r Gymraeg neu'r Saesneg.

Pam mae'n bwysig siarad â fy mhlentyn gan ddefnyddio iaith fy aelwyd?  

  • Mae'n bwysig i chi fod yn fodel ieithyddol da i'ch plentyn. Y ffordd orau o wneud hyn yw sgwrsio â'ch plentyn gan ddefnyddio'r iaith y gallwch ei siarad yn fwyaf rhugl.
  • Bydd yn haws ac yn fwy naturiol i chi siarad â chwarae â'ch plentyn os byddwch yn defnyddio eich iaith gyntaf. Efallai bydd pob rhiant yn defnyddio iaith wahanol.
  • Nid yw dewis siarad â'ch plentyn gan ddefnyddio eich ail iaith yn unig yn ddefnyddiol, ac yn anffodus gall hynny achosi mwy o anawsterau o ran dysgu iaith i'ch plentyn.
  • Po orau y bydd eich plentyn yn dysgu iaith ei aelwyd, hawsaf yn y byd fydd hi iddo ddysgu iaith arall yn ddiweddarach, e.e. Saesneg/Cymraeg.
  • Bydd defnyddio iaith eich aelwyd yn cysylltu eich plant â thraddodiadau diwylliannol ac mae'n golygu y bydd yn gallu cyfathrebu â pherthnasau a ffrindiau sy'n siarad yr un iaith.
  • Mae ymchwil wedi awgrymu fod dwyieithrwydd yn helpu plant i gryfhau eu sgiliau meddwl a datrys problemau, ac fel arfer, bydd hynny'n sicrhau graddau academaidd gwell yn y tymor hir.

Ond beth am ddysgu Cymraeg/Saesneg?

Mae llawer o rieni'n poeni y bydd siarad iaith eu haelwyd yn peri anfanteision i'w plentyn pan fydd yn cychwyn mewn ysgol yn y DU.  Nid yw hynny'n wir. Os bydd eich plentyn wedi datblygu sylfaen dda yn iaith eu haelwyd, dylai allu dysgu ail iaith yn eithaf rhwydd ar ôl cychwyn clywed ac ymarfer yr iaith.

A wnaiff dysgu dwy iaith beri dryswch i fy mhlentyn? 

Gall plant ifanc ddysgu dwy iaith neu ragor ar yr un pryd. Byddant fel arfer yn dysgu'n gyflym pan fyddant yn cael digonedd o gyfleoedd i glywed a defnyddio dwy iaith neu bob iaith. Weithiau, bydd plant yn defnyddio geiriau neu ymadroddion o'r ddwy iaith yn yr un frawddeg. Mae hynny'n iawn!  Efallai y bydd yn swnio fel eu bod wedi drysu, ond mewn gwirionedd, byddant yn dysgu rheolau a geirfa'r ddwy iaith ac yn eu didoli yn eu hymennydd. Bydd yn dangos eu bod yn dysgu ac yn meddwl yn dda.

Mae'n well gan fy mhlentyn siarad Cymraeg/Saesneg. Beth ddylwn i ei wneud? 

Sgwrsiwch â'ch plentyn am iaith; trafodwch y bobl arbennig yn eu bywyd sy'n siarad eich iaith, yn cynnwys perthnasau a ffrindiau. Sicrhewch fod iaith eich aelwyd yn ddifyr trwy ddarllen llyfrau, canu caneuon a chwarae gemau yn yr iaith.  Os bydd eich plentyn yn ymateb yn Saesneg, ailadroddwch yr ymateb iddo gan ddefnyddio iaith yr aelwyd, er mwyn iddo allu clywed model da.

Ceisiwch ddal ati i siarad â'ch plentyn yn iaith eich aelwyd. Byddwch yn falch o fod wedi dyfalbarhau!

Beth allaf i ei wneud i helpu? 

  • Adroddwch straeon a darllenwch lyfrau i'ch plentyn yn iaith eich aelwyd.
  • Rhannwch rigymau, caneuon a cherddi y gwnaethoch eu dysgu pan oeddech yn blentyn.
  • Chwiliwch am ddigwyddiadau difyr trwy gyfrwng eich iaith, er enghraifft, sesiynau adrodd straeon yn eich llyfrgell leol, gwyliau lleol a digwyddiadau diwylliannol.
  • Defnyddiwch eich llyfrgell leol a chwiliwch am lyfrau dwyieithog, llyfrau dieiriau, neu lyfrau yn iaith eich aelwyd.
  • Gwyliwch raglenni teledu a gwrandewch ar gerddoriaeth yn iaith eich aelwyd gyda'ch plentyn.

Cofiwch, nid yw'n ofynnol i chi allu siarad Saesneg i fynd i weld Therapydd Iaith a Lleferydd. Gellir trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol yn ystod eich apwyntiad.