Neidio i'r prif gynnwy

Arwyddion strôc - HAST

Mae strôc yn achos meddygol brys. Os ydych yn tybio eich bod chi neu rywun arall yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.

Mae strôc yn digwydd pan fo tarfu ar gyflenwad y gwaed i'r ymennydd. Mae'r rhan fwyaf o strociau'n digwydd pan fydd clot gwaed yn atal llif y gwaed at yr ymennydd. Mae rhai strociau'n cael eu hachosi gan waedu yn yr ymennydd neu o'i amgylch oherwydd pibell waed sydd wedi byrstio.

Beth yw symptomau strôc?

  • Gwendid neu ddiffyg teimlad sydyn yn y wyneb, y fraich neu'r goes  ar un ochr o'r corff
  • Colli golwg neu olwg aneglur yn un neu’r ddau o’r llygaid
  • Anhawster sydyn wrth siarad neu ddeall iaith lafar
  • Dryswch sydyn 
  • Cur pen sydyn neu ddifrifol heb unrhyw achos amlwg
  • Penysgafnder, ansadrwyddd neu syrthio'n sydyn, yn enwedig gydag unrhyw rai o'r arwyddion eraill

Dilynwch ganllawiau HAST os byddwch chi'n tybio eich bod chi neu rywun arall wedi cael strôc 

  • Eu Hwyneb: Ydy’r unigolyn yn gallu gwenu? A yw ei wyneb wedi syrthio ar un ochr?
  • Aelodau: A yw'r unigolyn yn gallu codi ei ddwy fraich a'u cadw yno?
  • Sain: Ydy’r unigolyn yn gallu siarad yn glir a deall beth rydych chi’n ei ddweud? A yw ei leferydd yn aneglur?
  • Trowch at y ffon: Os byddwch yn gweld unrhyw rai o'r tri arwydd hyn, mae hi'n bryd ffonio 999