Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Strôc

Mae ein Gwasanaethau Strôc yn darparu gofal arbenigol, triniaeth ac adsefydlu ar gyfer pobl sydd wedi'u heffeithio gan strôc ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda chleifion, teuluoedd, gofalwyr a sefydliadau partner i gynorthwyo adferiad, lleihau'r risg o strôc yn y dyfodol ac i helpu pobl i adennill annibyniaeth.

Mae rhyw 100,000 o bobl yn y DU yn cael strôc bob blwyddyn. Mae rhyw 7,676 o'r rheiny yng Nghymru.

Gall strôc ddigwydd yn sydyn a gall gael effaith newidiol ar fwyd. Mae ein timau amlddisgyblaethol yma i roi gofal arbenigol ar bob cam, o driniaeth frys a gofal ysbyty acíwt gan gynnwys adsefydlu a chymorth parhaus yn y gymuned.

Mae ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Atal Strôc trwy hyrwyddo addysg ac iechyd
  • Asesu a thrin yn gyflym
  • Gofal strôc arbenigol i gleifion mewnol
  • Cymorth adsefydlu ac adfer
  • Helpu pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel ac yn hyderus
  • Lleihau'r risg o strociau eraill
  • Rhoi cymorth i gleifion, teuluoedd a gofalwyr gyda gwybodaeth a chyngor

Mae datblygu gwasanaethau wedi cynnwys y Bwrdd Iechyd yn rhoi nifer o wasanaethau strôc ychwanegol ar waith ar draws Gogledd Cymru er mwyn gwella gofal, adsefydlu ac adfer ar gyfer pobl sydd wedi'u heffeithio gan strôc.

Mae'r datblygiadau hyn yn cynwys: 

Mae Nyrsys Arbenigol Strôc ychwanegol wedi caniatáu i fwy o gleifion sy'n cyrraedd ein hadrannau achosion brys ar draws Gogledd Cymru dderbyn asesiad a thriniaeth yn gyflym gan arbenigwr strôc hyfforddedig.

Dechrau cynnig gwasanaethau Rhyddhau'n Gynnar â Chymorth (ESD) ar gyfer strôc yn benodol ar draws pob un o'r tair Cymuned Iechyd Integredig, gan helpu cleifion cymwys i barhau â'u hadsefydliad gartref gyda chymorth arbenigol.

Rydym hefyd wedi agor tair Canolfan Adsefydlu Cymunedol Arbenigol i Gleifion Mewnol ar draws Gogledd Cymru yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy ac Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon. Mae'r unedau hyn yn cynnig amgylcheddau pwrpasol ar gyfer adsefydlu strôc i gleifion sydd angen cymorth parhaus i gleifion mewnol yn dilyn strôc.

Rydym hefyd wedi atgyfnerthu ein timau adsefydlu Amlddisgyblaethol ar draws Gogledd Cymru trwy rolau therapi a seicoleg ychwanegol.

Ein Bwrdd Iechyd ni yw'r cyntaf yng Nghymru i fod â Nyrsys Atal Strôc sy'n canolbwyntio ar ddarparu addysg a dulliau hyrwyddo iechyd er mwyn helpu i ganfod a chynorthwyo pobl a allai fod â risg gynyddol o strôc, gan gynorthwyo ymyrraeth ac atal cynharach. Maent yn cynnal digwyddiadau mewn cymunedau lleol; sefydliadau a busnesau yn ogystal â darparu addysg a hyfforddiant ar gyfer staff a chleifion strôc a gofalwyr.

Os ydych yn sefydliad lleol ac yr hoffech i'n Tîm Atal ymweld er mwynn cynnal digwyddiad addysg a hyrwyddo iechyd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:-

 

Mae ein gwasanaethau'n anelu at gynorthwyo cleifion ar bob cam o'u taith adferiad strôc ar draws Gogledd Cymru.

 

Dolenni Defnyddiol a Rhagor o Wybodaeth

  • Y Gymdeithas Strôc
  • GIG 111 Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru