Neidio i'r prif gynnwy

Fflebotomi (Profion Gwaed)

Fflebotomi yw'r gwasanaeth sy'n gyfrifol am gasglu samplau gwaed.

Bydd yr holl samplau gwaed ar gyfer profion labordy yn cael eu casglu gan weithiwr gofal iechyd priodol trwy eich meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall.

Pan gyfeirir chi, cewch eich anfon at y gwasanaeth fflebotomi priodol, lle bydd eich sampl / samplau yn cael eu cyfeirio at y labordy.

Dylai unrhyw gwestiynau ynglŷn â'ch profion gael eu cyfeirio at eich meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Masgiau Wyneb

Bydd pawb sy’n dod i’r ysbyty’n cael masg wyneb sy’n gwrthsefyll hylif wrth gyrraedd.

Gwasanaethau Fflebotomi

  • Llinell Apwyntiadau Fflebotomi Meddygon Teulu (Amser Agor: 8:30 - 17:00 dydd Llun i ddydd Gwener).
  • Ffôn: 03000 850047 (opsiynau Saesneg a Chymraeg ar gael).

Paratoi Cleifion

  • Mae rhai profion yn gofyn am baratoi cleifion mewn ffyrdd arbennig; a rhoddir manylion gan y gweithiwyr gofal iechyd proffesiynol perthnasol yn hyn o beth. Dylai cleifion barhau i gymryd eu meddyginiaeth oni bai bod eu Meddyg yn dweud yn wahanol.
  • Os oes angen ymprydio rhaid i gleifion beidio â bwyta nac yfed (oni bai am ddŵr) am o leiaf 11 awr cyn cymryd eu gwaed. Yn ystod yr amser hwn ni ddylai cleifion ysmygu, cnoi gwm nac ymarfer corff. Ar ôl cymryd y sbesimen gellir ailgychwyn eich diet arferol.