Neidio i'r prif gynnwy

Androleg

Mae'r Adran Androleg wedi'i lleoli o fewn Patholeg yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Mae'r adran yn darparu profion ar gyfer ffrwythlondeb, dadansoddi ar ôl fasectomi ac archwiliadau alldaflu ôl-rediad.

  • Caiff samplau eu derbyn trwy apwyntiad yn unig
  • Mae'n rhaid i glinigwr ddarparu ffurflen gais am brawf cyn bod modd trefnu apwyntiad.

Mae ystafell glinig ar gael i gynhyrchu samplau ar gyfer cleifion sy'n byw mwy na 45 munud i ffwrdd o'r labordy patholeg. Mae ar gael trwy apwyntiad yn unig.

Apwntiadau: http://bookings.bookinglab.co.uk/bcuhb-andrology/services 

Darperir gwybodaeth am gasglu a chyflwyno samplau yn y pecynnau dadansoddi semen sydd ar gael gan y meddyg neu'r labordy.

Mae'r pecyn yn cynnwys:

 

  • Holiadur: mae'n rhaid iddo gael ei lenwi ar adeg cynhyrchu sampl gan ddod ag ef i'r labordy ynghyd â'r sampl.

 

  • Pot casglu sampl: Mae'n RHAID defnyddio'r pot casglu a ddarperir gyda'r pecyn - ni fyddwn yn derbyn unrhyw botiau casglu eraill.

 

  • Cyfarwyddiadau ar gynhyrchu samplau: Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gynhyrchu samplau yn y pecyn pan fyddwch yn derbyn y pecyn a dilynwch y cyfarwyddiadau wrth gynhyrchu'r sampl neu mae'n bosibl y caiff ei wrthod.

 

Dylai cleifion fod ar gael gan y clinigwr 14 diwrnod ar ôl derbyn y sampl.

Gweler y dogfennau gwybodaeth isod am ragor o wybodaeth.

Manylion cyswllt:
03000  848809  9am - 4pm, O ddydd Llun i ddydd Gwener
BCU.AndrologyQueries@wales.nhs.uk