Rydym yn cynnig apwyntiadau Offthalmoleg i'n cleifion sydd wedi bod yn aros hiraf ac sydd â'r angen mwyaf amdanynt. I leihau amseroedd aros, rydym yn cynnig clinigau ychwanegol dros y penwythnos, a gyda'r nos mewn ysbytai a gwasanaethau Glawcoma a Retinopatheg Ddiabetig mewn partneriaeth â phum practis Optometreg ar draws Gogledd Cymru.
I leihau amseroedd aros ar gyfer Cataractau a thriniaeth laser, rydym yn gweithio gyda'r darparwr preifat SpaMedica, sydd wedi'i leoli yng Nghilgwri yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Mae COVID-19 yn dal i gael effaith enfawr ar sut rydym yn darparu ein gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio ac mae cael y contract hwn â SpaMedica yn golygu y bydd llawer o'n cleifion yn gallu elwa ar fynediad at lawdriniaeth ar gyfer Cataractau a thriniaeth Laser ynghyd â gweithredoedd eraill yn gynt dros y misoedd sydd i ddod.
Dechreuodd y gwasanaeth hwn ym mis Rhagfyr 2021 ac rydym yn cysylltu â chleifion a allai gael budd o gynnig yr opsiwn hwn. Gellir darparu cludiant ar gyfer cleifion a allai ei chael hi'n anodd teithio.
Gwyddom pa mor anodd ydyw i bobl sydd wedi aros yn amyneddgar, weithiau mewn amgylchiadau anodd iawn, a byddem yn gofyn i bobl barhau i fod yn amyneddgar ac yn barchus tuag at ein staff wrth i ni wneud ein gorau i gyrraedd cynifer o bobl cyn gyflymed â phosibl.
Mae'r Gwasanaeth Offthalmoleg yn cynnwys Llawfeddygon Offthalmoleg Ymgynghorol, Nyrsys Arbenigol a staff cefnogi. Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth offthalmoleg cyffredinol sy'n trin pob math o gyflyrau cyffredin, er enghraifft glawcoma a chataract.
Fel arfer mae ein gwasanaethau ar gael drwy gyfeiriad gan Feddyg Teulu neu Optometrydd. Rydym yn cynnal clinigau cleifion allanol yn rheolaidd yn:
Y rhesymau mwyaf cyffredin dros gael eich cyfeirio at ein gwasanaeth yw:
Clinigau Eraill
Yn ogystal â chlinigau cleifion allanol cyffredinol, rydym yn cynnal clinigau arbenigol ar gyfer:
Os bydd angen i gleifion aros dros nos yn yr ysbyty yn ystod eu triniaeth, mae gwelyau ar gael.
Mae gan yr adran gyswllt agos â’r Gwasanaeth Orthoptig y gellir cael mynediad ato drwy gyfeiriad gan y Meddyg Ymgynghorol.