Cyfeiriad: Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 6TT
Rhif Ffôn: 03000 850014
Mae gwybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau ar gael yma.
Cyfyngu ar ymweliadau yn Ysbyty Bryn Beryl oherwydd cynnydd mewn heintiau
Mae cyfyngiadau ymweld ar waith ar hyn o bryd yn Ysbyty Bryn Beryl oherwydd cynnydd mewn heintiau ar y ward.
Rhaid gwneud ceisiadau i eithrio hyn, megis ymweld â pherthynas sydd ar ddiwedd oes, yn uniongyrchol â'r ward a bydd angen cwblhau asesiad risg unigol cyn ac ar ôl cyrraedd yr ymweliad y cytunwyd arno.
“Rydym yn adolygu’r sefyllfa’n rheolaidd a bydd trefniadau ymweld arferol yn ailddechrau cyn gynted â phosib.”
Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.
Mewn car: Dilynwch yr A487 o Gaernarfon at gylchfan Llanllyfni, cymerwch yr 2il allanfa am yr A499 at Bwllheli. Mae Ysbyty Bryn Beryl tua 2.5 milltir y tu allan i Bwllheli.
Ar fws: Mae gwasanaethau rheolaidd bob dydd. Am fwy o wybodaeth ewch i: Traveline Cymru