Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Sgiliau Sylw, Canolbwyntio a Threfnu

Gall gymryd llawer o amser i ymarfer datblygu sgiliau rhoi sylw, canolbwyntio a threfnu. I rai plant gall gwrando, canolbwyntio a dysgu sut i drefnu eu hunain fod yn anodd. Dyma rai syniadau i roi cynnig arnynt gartref i gefnogi'ch plentyn i ddatblygu'r sgiliau hyn:

Gwnewch amserlen gartref a chadwch at y drefn

  • Gosodwch amseroedd penodol ar gyfer y pethau sy'n digwydd bob dydd e.e. codi, chwarae, gwneud gwaith cartref, gwneud tasgau, gwylio'r teledu, chwarae gemau fideo a mynd i'r gwely. 
  • Siaradwch am yr amserlen fel teulu a rhowch amser i'ch plentyn/unigolyn ifanc i ofyn unrhyw gwestiynau. 
  • Rhowch y drefn i fyny mewn rhywle amlwg yn eich cartref fel bod pawb yn gallu ei weld. 
  • Gallwch wneud hyn drwy ei ysgrifennu ar fwrdd du/gwyn neu ar ddarn o bapur a'i roi i fyny.  Gallwch hefyd wneud hyn yn weledol gan ddefnyddio lluniau neu symbolau.
  • Ceisiwch gadw at y drefn cymaint ag y gallwch gan fod natur ragweladwy yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i bobl ifanc.

Sefydlwch drefn ar gyfer gwneud gwaith cartref

  • Datblygwch system ar gyfer cwblhau gwaith cartref. 
  • Dewiswch rywle rheolaidd lle na fydd rhywbeth fel pobl eraill, teledu, gemau fideo ac ati yn tarfu arnoch. 
  • Torrwch y tasgau gwaith cartref i lawr yn ddarnau llai a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o egwyliau. Er enghraifft os yw eich plentyn/unigolyn ifanc yn cael byrbryd ar ôl bod yn yr ysgol, chwaraewch neu ymlaciwch am 15 munud cyn dechrau’r amser gwneud gwaith cartref. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn stopio'n rheolaidd ar gyfer "egwyliau i symud" sy'n caniatáu eich plentyn i godi, symud a gwneud rhywbeth y mae'n ei fwynhau cyn setlo unwaith eto i gwblhau'r dasg. 
  • Gallwch ddefnyddio amserydd gweledol i'w helpu i wybod pa mor hir sydd ganddo ar ôl e.e. 20 munud o waith, 5 munud o egwyl. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi llawer o anogaeth i'ch plentyn/unigolyn ifanc. 

Paratowch o flaen llaw am y diwrnod

  • Gall y boreau fod yn amser prysur iawn i bawb!
  • Helpwch eich plentyn/unigolyn ifanc i fod yn drefnus drwy ei helpu i gael ei bethau'n barod y noson cynt e.e. rhowch ei ddillad allan yn barod ar gyfer y diwrnod nesaf, paciwch ei fag ysgol ac ati. 
  • Bydd yr arfer hwn yn parhau i'w helpu i fod yn drefnus wrth iddo dyfu.

Gosodwch reolau ar gyfer y cartref

  • Mae gosod rheolau ar gyfer y cartref, sy'n egluro'r hyn a ddisgwylir yn y cartref, yn ffordd o wneud yn siŵr fod pawb yn “deall ei gilydd”. 
  • Ceisiwch gynnwys eich plentyn/unigolyn ifanc i gytuno â'r rheolau, bydd hyn yn ei helpu i gymryd perchnogaeth drostynt.
  • Gwnewch yn siŵr bod y safonau ymddygiad ar gyfer y teulu yn glir, syml ac yn syth i'r pwynt.
  • Cymerwch amser i egluro'r rheolau i'r teulu ac egluro beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dilyn y rheolau a phan fyddwch yn torri'r rheolau. 
  • Rhowch y rheolau i fyny mewn rhywle amlwg yn y cartref fel bod pawb yn gallu eu gweld, unwaith eto gellir gwneud hyn fel rhestr neu drwy ddefnyddio pethau gweledol. 
  • Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r rheolau'n gyson. 
  • Dylai'r canlyniadau a ddaw yn sgil torri'r rheolau fod yn deg, cyflym a chyson.
  • Mae'n bwysig bod y  plentyn/unigolyn ifanc yn dechrau ar lechen lân ar ôl iddo gwblhau ei ganlyniad o dorri’r rheolau. 
  • Peidiwch â defnyddio cosb gorfforol gan fod hyn yn gallu gwneud mwy o ddrwg nag o les.

Byddwch yn gyson

  • Mae'n bwysig eich bod yn dilyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud bob amser. 
  • Cofiwch i addo'r hyn yr ydych yn gallu ei ddarparu yn unig a cheisiwch wneud yr hyn yr ydych yn ei ddweud yr ydych am ei wneud bob amser. 
  • Pan fydd eich plentyn/unigolyn ifanc yn torri'r rheolau, rhybuddiwch ef unwaith yn unig mewn llais digynnwrf, gan ei atgoffa o'r canlyniadau e.e. os wnei di barhau i gicio'r pêl-droed yn y lolfa byddaf yn cymryd y pêl-droed oddi wrthot ti am weddill y dydd. 
  • Os nad yw'r rhybudd yn gweithio, dilynwch drwodd â'r rhybudd yn ddigynnwrf.
  • Ceisiwch beidio â chael trafodaeth ar lafar am ba mor deg neu annheg ydyw.
  • Peidiwch â defnyddio cosb gorfforol gan nad yw'n effeithiol a gall wneud mwy o ddrwg nag o les.

Byddwch yn bositif!

  • Dywedwch wrth eich plentyn/unigolyn ifanc beth ydych chi eisiau iddo ei wneud yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn nad ydych eisiau iddo ei wneud. 
  • Er enghraifft yn hytrach na dweud "paid â rhedeg" gallwch ddweud "dangosa i mi pa mor dda rwyt ti'n gallu cerdded". 
  • Mae plant sy'n cael trafferth rhoi sylw a chanolbwyntio yn aml yn treulio llawer o amser yn cael rhywun yn dweud wrthynt beth maent yn ei wneud yn anghywir. 
  • Mae angen iddynt gael eu canmol am yr hyn y maent yn gallu ei wneud, dim ots pa mor fach ydyw.
  • Cymerwch bob cyfle i Wobrwyo a Chanmol eich plentyn/unigolyn ifanc am y pethau da y mae'n ei wneud e.e. cau'r drws yn dawel neu wisgo amdano.

Canolbwyntiwch ar yr ymdrech nid ar y canlyniadau

  • Rhowch ganmoliaeth, anogwch a gwobrwywch eich plentyn am yr ymdrech y mae'n ei roi i'w waith a'i dasgau nid am y canlyniad neu'r radd ar y diwedd yn unig!
  • Y peth pwysicaf yw eich bod yn cydnabod bod eich plentyn/unigolyn ifanc yn gwneud ei orau, dim ots beth yw'r canlyniad ar y diwedd.

Byddwch yn eglur gyda’r hyn yr ydych yn ei ddweud

  • Gwnewch yn siŵr bod y plentyn/unigolyn ifanc yn deall yn glir beth ydych yn ei ddweud.
  • Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr bod gennych sylw'r plentyn/unigolyn ifanc cyn siarad ag ef. Gallwch wneud hyn drwy alw ei enw, cyffwrdd yn ysgafn yn ei ysgwydd neu gwyro lawr i lefel y plentyn/unigolyn ifanc.
  • Edrychwch ar ei wyneb a dywedwch wrth eich plentyn/unigolyn ifanc yn union beth hoffech iddo ei wneud mewn llais clir a digynnwrf. 
  • Efallai byddai'n helpu i ofyn iddo ailadrodd y cyfarwyddiadau yn ôl atoch, fel y gallwch wneud yn siŵr ei fod wedi deall. 
  • Cadwch eich cyfarwyddiadau yn fyr a syml. Gall fod yn ddefnyddiol i dorri cyfarwyddiadau hir i lawr yn ddarnau llai i'w helpu i gofio a deall yr hyn yr ydych wedi'i ddweud.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn canmol eich plentyn/unigolyn ifanc pan fydd yn cwblhau bob cam.

Gwnewch ymarfer corff

  • Mae bod yn actif yn gorfforol yn helpu'r gallu i roi sylw a chanolbwyntio. 
  • Mae gweithgareddau sy'n gofyn i'ch plentyn/unigolyn ifanc ganolbwyntio ar symudiadau'r corff, fel gymnasteg neu ddawnsio, yn aml yn gallu bod yn ddefnyddiol. 
  • Ceisiwch ddatblygu ei allu i roi sylw a chanolbwyntio. Gall chwaraeon tîm fod yn ysgogol iawn gan fod pobl ifanc yn aml eisiau ennill!
  • Gall cael 'egwyliau i symud' yn rheolaidd wrth wneud gweithgareddau helpu plant a phobl ifanc i ganolbwyntio. 
  • Gall hyn gynnwys ychydig o 'amser gwingo’ wrth wneud gweithgaredd neu oedi'r gweithgaredd, codi a symud o gwmpas cyn dod yn ôl a chwarae eto.

Argymhellion sydyn i roi cynnig arnynt

  • Peidiwch â gwneud amryw o dasgau ar yr un pryd – ceisiwch wneud un peth ar y tro, bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio
  • Torrwch y diwrnod i lawr – torrwch y diwrnod i lawr yn ddarnau bach o amser, gall amserlenni gweledol fod yn ddefnyddiol ar gyfer hyn.
  • Torrwch eich tasgau'n ddarnau llai a chymerwch egwyliau rheolaidd - torrwch eich gwaith a'ch tasgau yn ddarnau llai sy'n haws eu rheoli. Bydd cael egwyliau rheolaidd yn eich helpu i ganolbwyntio yn ystod amser gwneud y dasg.
  • Defnyddiwch amserydd – gall defnyddio amserydd eich helpu i gadw cofnod o faint o amser sydd gennych ar ôl. Gall gwybod mai dim ond 5 munud sydd gennych ar ôl nes eich egwyl nesaf eich helpu i ganolbwyntio.
  • Defnyddiwch bethau gweledol i'ch atgoffa – gwnewch nodyn atgoffa i'ch helpu i gofio ac aros ar y trywydd cywir! Gallwch ysgrifennu rhestr, defnyddio nodiadau gludiog, defnyddio lluniau i roi awgrymiadau neu osod nodyn atgoffa ar eich ffôn.
  • Defnyddiwch eitem i chwarae ag ef – mae rhai pobl yn ei gweld yn ddefnyddiol i gael eitem i chwarae ag ef i'w helpu i ganolbwyntio a'i gwneud yn haws iddynt wrando. Mae pob math o eitemau i'w chwarae â nhw ar gael a all fod yn ddefnyddiol i gadw eich dwylo'n brysur fel gall eich meddwl ganolbwyntio.

Dogfennau y gellir eu llawr lwytho:

Dolenni defnyddiol: