Mae'r tîm niwroddatblygiadol yn asesu plant a phobl ifanc ble mae pryderon parthed cyflwr niwroddatblygiadol posib, h.y. Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Maent yn archwilio'r effaith mae'r rhain yn ei gael ar allu plentyn/unigolyn ifanc i weithredu yn ei fywyd o ddydd i ddydd a gallant gynnig cymorth penodol a chyngor i deuluoedd.
Mae'r timau niwroddatblygiadol wedi eu rhannu rhwng tair ardal ar draws Gogledd Cymru:
Ar ôl derbyn cyfeiriad, y mae'r rhieni neu ofalwyr y plentyn/unigolyn ifanc wedi cydsynio iddo, mae'r tîm niwroddatblygiadol yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol eraill er mwyn casglu gwybodaeth am wahanol feysydd ym mywyd y plentyn/unigolyn ifanc. Fel rhan o'r broses asesu rydym yn siarad â'r ysgol, rhieni/gofalwyr ac unrhyw wasanaethau eraill sy'n ymwneud â'r plentyn/unigolyn ifanc. Mae hyn yn ein helpu i adeiladu darlun cyfan o sut mae anawsterau'r plentyn/unigolyn ifanc yn effeithio rhannau amrywiol o'i fywyd.
Bydd yr asesiadau yr ydym yn eu cwblhau wedi eu teilwra i anghenion unigol y plentyn/unigolyn ifanc a gall amrywio o ganlyniad.
Gall y timau amlddisgyblaethol gynnwys y gweithwyr proffesiynol canlynol: Seicolegwyr Clinigol, Seiciatryddion, Nyrsys Arbenigol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Therapyddion Galwedigaethol, Paediatregwyr Cymuned, Seicolegwyr Cynorthwyol a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Arbenigol.