Neidio i'r prif gynnwy

Mae Nicola Ward yn rhannu ei stori am roi genedigaeth yn y cartref dair gwaith gyda phrofiadau gwahanol iawn.

"Yn y lle cyntaf, dewisais gael fy mabi cyntaf gartref, ar ôl gwneud ychydig o waith ymchwil, roeddwn i'n awyddus i wneud hynny mewn ffordd mor naturiol â phosibl. Dydw i ddim yn hoff iawn o ysbytai ac rydw i'n teimlo'n fwyaf diogel a chyfforddus gartref, felly roeddwn i'n gwybod mai bod gartref fyddai'r amgylchedd gorau i mi roi genedigaeth.

"Fe ges i enedigaeth gyntaf braf iawn gyda'm babi, Rose. Roeddwn i'n teimlo bod cael bydwraig bwrpasol a thîm o'm hamgylch i'n fendith a derbyniais ofal arbennig wedi'i bersonoli.

"Penderfynais gael genedigaeth arall yn y cartref gyda fy ail fabi, ond profiad gwahanol iawn oedd hwnnw. Roedd o'n pwyso 10 pwys a saith owns a genedigaeth ddystocia'r ysgwydd ydoedd, sy'n golygu bod ysgwydd y babi'n sownd y tu ôl i asgwrn pwbig y fam, felly roedd yr esgoriad yn un anodd iawn. Unwaith yr oeddwn i wedi esgor ei ben, nid oedd ei gorff yn dod allan, felly gwnaeth fy mydwraig Helen ei gylchdroi â llaw ac fe ddaeth allan, ond bu'n rhaid ei adfywio ac aed â ni i'r ysbyty mewn ambiwlans.

"Roeddwn i'n teimlo bod fy mydwragedd yn gofalu amdanaf yn arbennig o dda ac nid oedd fy ngofal yn dioddef o gwbl o ganlyniad i'r ffaith fy mod i gartref. Derbyniais ofal personol ardderchog, a byddai'r un peth wedi digwydd pe bawn i yn yr ysbyty.

"Profais drawma mawr o'r enedigaeth honno, gan gynnwys gorfod bod yn yr ysbyty'n dilyn yr enedigaeth. Felly, pan feichiogais i eto, bu'n rhaid i mi ystyried yn ofalus ble i roi genedigaeth, ond roeddwn i'n dal yn argyhoeddedig mai geni yn y cartref oedd orau i mi.

"Yn ffodus, Helen, a aeth trwy'r enedigaeth flaenorol gyda mi, oedd fy mydwraig ac roedd hi mor gefnogol o'm dymuniadau, ac roedd yn glir mai fy newis i ydoedd. Roedd ei chefnogaeth yn ddi-ildio trwy'r cyfan ac mae hi wedi dod yn ffrind i'r teulu. Mae hi'n ddynes anhygoel, mae'r tîm cyfan yn anhygoel.

"Gyda'm trydydd babi, rhoddais enedigaeth i Austin bach gartref wythnos yn gynnar, a chafodd ei eni o fewn tair awr. Roedd yn enedigaeth ddelfrydol ac yn bopeth y gallem ni fod wedi gofyn amdano.

"Rydw i'n falch bod pawb yn gallu cael yr opsiwn a'u bod nhw'n rhydd i ddewis beth maen nhw am ei wneud, gan wybod bod cymorth ar gael iddyn nhw, waeth beth fo'u dewis."