Gallwch fod yn yr ysbyty drwy nifer o lwybrau gwahanol. Efallai y bydd y meddyg neu'r Tîm Iechyd Meddwl Cymuned wedi'ch anfon yno neu efallai y byddwch wedi'ch 'cadw' o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'n llawer llai tebygol y gofynnir i chi fynd i'r ysbyty nawr na deng neu ugain mlynedd yn ôl a hyd yn oed os gofynnir i chi fynd i’r ysbyty, mae'n debyg y bydd eich arhosiad yn un byr.
Efallai y gofynnir i chi fynd i'r ysbyty oherwydd:
Os ydych yn mynd i'r ysbyty o'ch gwirfodd, fe'ch gelwir yn "glaf gwirfoddol". Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd yn yr ysbyty yn gleifion gwirfoddol. Os nad ydych yn hoffi eich triniaeth, gallwch adael unrhyw bryd ond mae'n syniad da eich bod yn trafod hyn gyda'r staff i ddechrau.
Er mwyn lleihau amlygiad i fwg sigaréts niweidiol a chefnogi iechyd a lles ein cleifion, staff ac ymwelwyr, bydd ein holl unedau iechyd meddwl yn gwbl ddi-fwg o 1 Medi 2022 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys yr holl unedau preswyl, wardiau, adeiladau, tiroedd a cherbydau ar ein safleoedd.
Bydd ein staff yn helpu cleifion i aros yn ddi-fwg a rheoli chwantau yn ystod eu harhosiad yn ein hunedau, gan gynnwys trwy ddefnyddio meddyginiaethau cyfnewid nicotin (gan gynnwys opsiynau fel losin a phatsys nicotin) a mynediad at gefnogaeth bersonol gan gynghorydd arbenigol.
Mwy o fanylion am unedau iechyd meddwl di-fwg
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau yn yr ysbyty, cysylltwch â'r Gwasanaeth Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru neu ffoniwch 01352 759 332 yn Sir y Fflint a Wrecsam, CADMHAS ar 01745 813 999 yn Sir Ddinbych a Conwy a MHAS ar 01248 670 450 ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.