Neidio i'r prif gynnwy

Triniaeth Orfodol

Os yw'r bobl o'ch cwmpas yn poeni y gallech chi niweidio'ch hun neu bobl eraill, gellir mynd â chi i'r ysbyty heb eich caniatâd. Golyga hyn eich bod yn cael triniaeth o dan wahanol adrannau'r Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.  

Mae ein hunedau iechyd meddwl ar fin bod yn rhai di-fwg

Er mwyn lleihau amlygiad i fwg sigaréts niweidiol a chefnogi iechyd a lles ein cleifion, staff ac ymwelwyr, bydd ein holl unedau iechyd meddwl yn gwbl ddi-fwg o 1 Medi 2022 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys yr holl unedau preswyl, wardiau, adeiladau, tiroedd a cherbydau ar ein safleoedd.

Bydd ein staff yn helpu cleifion i aros yn ddi-fwg a rheoli chwantau yn ystod eu harhosiad yn ein hunedau, gan gynnwys trwy ddefnyddio meddyginiaethau cyfnewid nicotin (gan gynnwys opsiynau fel losin a phatsys nicotin) a mynediad at gefnogaeth bersonol gan gynghorydd arbenigol.  

Mwy o fanylion am unedau iechyd meddwl di-fwg

Gallwch ddarllen trosolwg o'ch hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar wefan yr elusen MIND. Mae'r canllaw yn cynnwys cwestiynau cyffredin, eglurhad o dermau cyfreithiol a dolenni at wybodaeth a chefnogaeth bellach.