Os ydych yn teimlo eich bod allan o reolaeth yn emosiynol, yn poeni bod gennych broblem iechyd meddwl, mae nifer o leoedd y gallwch fynd iddynt yn gyntaf, gan gynnwys siarad â'ch Meddyg Teulu.
Gall eich meddyg:
Mae rhai Meddygfeydd yn cynnig Gwasanaeth MI FEDRAF Gofal Cychwynnol, sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles heb yr angen am gyfeiriad neu apwyntiad. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.
I lawer o bobl, mae'r ffordd yn stopio yma. Maent yn cael triniaeth gan eu meddyg neu'n cael cefnogaeth gan MI FEDRAF Gofal Cychwynnol ac maent yn fodlon gyda'r canlyniad.
Os ydych yn feichiog ac yn pryderu am eich iechyd meddwl, siaradwch gyda’ch bydwraig. Mae’n bosibl bydd eich bydwraig yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru, sy’n darparu rhagfynegi, rhwystro, canfod a thriniaeth i broblemau sy’n effeithio ar ferched yn ystod y beichiogrwydd a’r flwyddyn ôl-enedigol.
Cofiwch: Os ydych yn meddwl bod eich meddyg yn rhy brysur i siarad drwy eich problemau, gallwch drefnu gyda'r derbynnydd am apwyntiad hir. Neu fe allwch ysgrifennu popeth mewn llythyr a'i anfon at eich meddyg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch mynd at feddyg, cysylltwch â'ch gwasanaeth eiriolaeth agosaf.
Sir y Fflint a Wrecsam:
Gwasanaeth Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru
01352 759 332
Conwy a Sir Dinbych:
Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych
01745 813 999
Gwynedd ac Ynys Môn:
Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl
01248 670 450