Neidio i'r prif gynnwy

Adenomyosis

Mae adenomyosis yn gyflwr lle mae leinin y groth (wterws) yn dechrau tyfu i mewn i’r cyhyr yn wal y groth.

Mae cael diagnosis o adenomyosis yn fwy cyffredin mewn merched sydd dros 30 oed. Gall effeithio ar unrhyw un sy’n cael mislifoedd. Nid yw adenomyosis yn haint ac nid yw’n heintus. Mae’n anfalaen (nid yw’n ganseraidd).

Beth yw’r symptomau?

Y symptomau mwyaf cyffredin yw:

  • Mislifoedd trwm, poenus neu afreolaidd
  • Poen pelfig (poen yn rhan isaf eich bol)
  • Ymchwyddo, trymder neu lawnder yn eich bol (abdomen)
  • Poen cefn (poen cyson oherwydd pwysau’r wterws)
  • Pasio dŵr yn aml
  • Poen pelfig cyn-mislif a theimladau o drymder / anghysur yn y pelfis

Symptomau llai cyffredin yw:

  • Poen yn ystod rhyw
  • Poen sy’n gysylltiedig â mynd i’r tŷ bach

Mae tua thraean o ferched yn profi ychydig neu dim symptomau, efallai y bydd merched eraill yn dioddef gyda llawer o effeithiau. Gall hefyd effeithio ar agweddau eraill o fywyd merch gan gynnwys ei hiechyd corfforol cyffredinol a’i lles emosiynol. Yn gyffredinol, mae symptomau yn stopio ar ôl y menopos. Gall adenomyosis hefyd effeithio ar ffrwythlondeb a gall gynyddu’r risg o gamesgoriad a chymhlethdodau eraill. Mae’r cyflwr yr un mor gyffredin ag endometriosis (dolen), gall rhai merched brofi’r ddau gyflwr gyda’i gilydd.

Sut yr ydych yn cael diagnosis o adenomyosis?

Efallai y bydd eich meddyg yn trefnu sgan uwchsain a/neu sgan MRI i ymchwilio eich symptomau.

Sut y gellir trin adenomyosis?

Bydd triniaeth yn dibynnu ar y symptomau, fodd bynnag, gall ffactorau eraill gynnwys oedran, yr awydd i gael plant a chadw ffrwythlondeb, barn ar lawdriniaeth a pha driniaethau sydd eisoes wedi cael eu rhoi ar brawf.

Os ydych wedi cael diagnosis o adenomyosis, efallai y bydd triniaethau i helpu gyda’ch symptomau yn cynnwys:

  • Triniaethau anhormonaidd i leihau poen a gwaedu gyda’ch mislif.
  • Triniaeth hormonaidd megis y bilsen, pigiad Depo-Provera™, mewnblaniad Nexplanon™ a choil Mirena™ neu fathau eraill sy’n achosi cyflwr menopos ffug a dros dro (Zoladex™). 
  • Hysterectomi (tynnu’r groth), ar gyfer merched nad ydynt eisiau cadw eu ffrwythlondeb.

Dylech weld eich Meddyg Teulu os ydych yn profi symptomau adenomyosis.

Mae endometriosis yn gyflwr gwahanol lle mae celloedd sy’n debyg i’r rhai sydd yn leinin y groth (wterws) yn cael eu canfod mewn rhannau eraill yn y corff, megis y pelfis, o amgylch y groth, ofarïau a’r tiwbiau ffalopaidd. Bydd cael hysterectomi yn trin adenomyosis, er na fydd yn datrys symptomau endometriosis os yw’r ddau gyflwr yn bresennol.

Gwybodaeth bellach ac adnoddau defnyddiol