Neidio i'r prif gynnwy

Endometriosis

Mae endometriosis yn gyflwr ble mae celloedd tebyg i’r rhai yn leinin y groth (wterws) yn cael eu canfod mewn rhannau eraill yn y corff, megis y pelfis o gwmpas y groth, ofarïau a’r tiwbiau ffalopaidd. Gall hefyd effeithio ar y coluddyn a’r bledren. 

Gall endometriosis achosi poen, gwaedu, llid, a chreithio. Gall effeithio ar ferched o lasoed i’r menopos. 

Symptomau Endometriosis 

Ni fydd pawb yn profi’r un symptomau. Gall y symptomau amrywio a chynnwys cyfuniad o’r canlynol:

  • Poen yn yr abdomen isaf neu gefn (poen pelfig) – fel arfer yn waeth yn ystod mislif.
  • Poen mislif sy’n atal rhywun rhag gwneud eu gweithgareddau arferol.
  • Poen yn ystod neu ar ôl rhyw.  
  • Poen wrth basio dŵr. 
  • Poen wrth agor coluddion. 
  • Trafferth beichiogi. 

Dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu os ydych yn meddwl efallai bod gennych endometriosis, yn enwedig os yw’ch symptomau yn effeithio ar eich bywyd bob dydd.  

Ffrwythlondeb 

Nid yw endometriosis o anghenraid yn achosi anffrwythlondeb ond mae cysylltiad â phroblemau ffrwythloni. Hyd yn oed gydag endometriosis difrifol, mae beichiogi naturiol yn dal yn bosibl.  

Opsiynau triniaeth 

Ar hyn o bryd nid oes iachâd ar gyfer endometriosis ond mae ystod o driniaethau ar gael i helpu rheoli symptomau megis: 

  • Lladdwyr poen 
  • Triniaethau hormonaidd a meddyginiaeth
  • Llawdriniaeth

Bydd eich meddyg yn trafod yr opsiynau gyda chi.  

Rhagor o wybodaeth a grwpiau cymorth endometriosis