Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr Iechyd

Mae ein timau Ymwelwyr Iechyd yn cynnig cyngor arbenigol, cefnogaeth ac ymyriadau i deuluoedd a phlant ar draws gogledd Cymru. Mae Ymwelwyr Iechyd yn cefnogi iechyd a lles plant o'r cyfnod cyn geni hyd at 5 mlwydd oed drwy gynnig gwybodaeth a chyngor i'w rhieni. Mae'r cyngor hwn yn cynnwys cefnogaeth cyn geni, lles corfforol ac emosiynol plant, y rhaglen imiwneiddio plant, cymorth rhianta a chynnydd datblygiadol.

Mae'r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd yng Nghymru yn cael ei arwain gan Raglen Plant Iach Cymru, sy'n nodi pryd y gall plentyn a'i deulu ddisgwyl cyswllt gydag Ymwelydd Iechyd. 

Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn rhoi cymorth i chi o adeg geni eich plentyn hyd at eu blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys:

Mae Ymwelwyr Iechyd yn cydweithio'n agos gyda Bydwragedd, Meddygon Teulu, Nyrsys Practis, y Tîm Pediatrig Cymunedol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Nyrsys Ysgol, Gweithwyr Cymdeithasol, Meithrinfeydd, Timau Dechrau'n Deg ac asiantaethau eraill er mwyn bodloni holl anghenion eich plentyn.

Sut i gael gafael ar Wasanaethau Ymwelwyr Iechyd 

Bydd Bydwragedd a Meddygon Teulu yn rhoi gwybod i ni amdanoch chi a'ch teulu yn ystod beichiogrwydd neu pan fyddwch wedi cael eich babi. Bydd y Tîm Ymwelwyr Iechyd yn cysylltu â chi. 

Os hoffech chi gysylltu â'ch Ymwelydd Iechyd, mae eu manylion fel arfer ym mlaen y llyfr coch (cofnod iechyd y plentyn a gedwir gan rieni). Os nad ydych chi'n siŵr neu os ydych chi newydd symud i fyw i'r ardal, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Ardal leol am gyngor a chymorth. 

Manylion cyswllt Ymwelwyr Iechyd lleol 

Tîm Ymwelwyr Iechyd Ynys Môn

Swyddfa Sector: Tŷ Derwydd, Llangefni
Rhif ffôn: 03000853172 neu 01407762507

Tîm Ymwelwyr Iechyd Gwynedd

Swyddfa Sector: Bodfan, Caernarfon
Rhif ffôn:  03000851638

Tîm Conwy a Sir Ddinbych

Swyddfa Sector: Clinig Iechyd Abergele, Stryd y Farchnad, Abergele
Rhif ffôn: 03000 850009  opt.7

Tîm Wrecsam a Sir y Fflint:

Swyddfa Sector: Canolfan Iechyd y Cei, Cei Connah, Sir y Fflint
Rhif ffôn: 
03000859301

Dechrau’n Deg

Mewn rhai ardaloedd yng ngogledd Cymru, mae cymorth ychwanegol ar gael i blant a theuluoedd drwy gynllun Dechrau'n Deg

Dolenni ac adnoddau defnyddiol