Neidio i'r prif gynnwy

Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 0-4 oed sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig penodol yng Nghymru. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi rhieni yn ogystal â phlant. Mae hyn yn cynnwys:  

  • Cefnogaeth ychwanegol gan ymwelwyr iechyd
  • Gofal plant rhan-amser o safon i blant rhwng 2-3 oed.
  • Rhaglenni cymorth rhianta
  • Datblygu iaith gynnar a sgiliau chwarae

Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg yn cynnig lefel uwch o gefnogaeth i deuluoedd a phlant mewn ardaloedd dynodedig ar draws gogledd Cymru. 

Gwasanaethau Dechrau'n Deg yng ngogledd Cymru

Bydd eich Ymwelydd Iechyd Dechrau'n Deg yn eich cefnogi drwy gydol blynyddoedd cynnar eich plentyn. Byddant yn cynnig cyngor a chefnogaeth a fydd yn gwella iechyd a datblygiad eich plentyn. 

Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg hefyd yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol ynglŷn â'r canlynol:

  • Maeth babanod a phlant gan gynnwys hybu bwydo ar y fron.
  • Twf a datblygiad plentyn
  • Cefnogi'r berthynas rhiant-plentyn
  • Rheoli ymddygiad e.e. cysgu, mynd i'r tŷ bach, bwydo a phryderon ymddygiad
  • Atal a rheoli salwch
  • Diogelwch ac atal damweiniau
  • Rheoli cyflwr hirdymor y plentyn
  • Cefnogaeth gyda chwarae, iaith a lleferydd 
  • Gwybodaeth ynglŷn â'r rhaglen imiwneiddio plant
  • Cefnogi plant a theuluoedd a all fod mewn perygl o niwed
  • Problemau mewn perthynas e.e. trais yn y cartref, teulu'n chwalu
  • Anawsterau iechyd emosiynol e.e. iselder a phryder cyn geni ac ar ôl geni
  • Rhoi'r gorau i smygu
  • Hyrwyddo negeseuon iechyd y cyhoedd
  • Nyrs yn rhagnodi
  • Amryw o gyfleoedd eraill i'ch cefnogi chi fel rhiant

Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg hefyd yn cynnig ymweliadau cartref ychwanegol, cefnogaeth ac ymyriadau sydd wedi'u teilwra i ateb gofynion eich plentyn a'ch teulu.

Er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth orau bosibl ar gael ar gyfer eich plant a’ch teulu, mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg yn cydweithio'n agos gydag aelodau eraill y tîm Dechrau'n Deg gan gynnwys staff gofal plant Blynyddoedd Cynnar, tîm Datblygu Iaith Gynnar, Athrawon Ymgynghorol Cymunedol a thîm Gweinyddol Dechrau'n Deg.

Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg hefyd yn gweithio gydag Ymwelwyr Iechyd Cyffredinol, Meddygon Teulu, Nyrsys Practis, Tîm Pediatrig Cymunedol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Nyrsys Ysgol ac asiantaethau eraill.

Sut i gael gafael ar Wasanaethau Dechrau'n Deg 

Bydd Bydwragedd a Meddygon Teulu yn rhoi gwybod i ni amdanoch chi a'ch teulu yn ystod beichiogrwydd neu pan fyddwch wedi cael eich babi. Bydd bydwraig neu weithiwr iechyd proffesiynol yn cysylltu â rhieni neu ofalwyr plant os ydyn nhw'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg ddynodedig yng ngogledd Cymru. Bydd y tîm Ymwelwyr Iechyd yn cysylltu gyda chi.

Gallwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i weld a ydych chi'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg ac a oes gwasanaethau ychwanegol ar gael.

Os nad ydych chi'n siŵr neu os ydych chi newydd symud i fyw i'r ardal, gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Ardal Ymwelwyr Iechyd lleol am gyngor a chymorth.

Mae gwasanaeth ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg ar gael yn bennaf am 9yb i 5yh ar ddydd Llun hyd at ddydd Gwener (ac eithrio gŵyl y banc).

Os yw eich plentyn yn sâl y tu allan i oriau arferol y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth. 

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

Am ragor o gymorth i’ch teulu a chi, edrychwch ar Ddolenni ac adnoddau defnyddiol Ymwelwyr Iechyd Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth am famolaeth, cyngor am ymdopi pan fo'ch plentyn yn crio, cyflwyno bwydydd solet i'ch babi a mwy. 

Ynys Môn

Gwynedd

Conwy

Sir Ddinbych 

Sir y Fflint

Wrecsam