Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau i fabanod

Yn ystod eu blwyddyn gyntaf, bydd babanod yn cael brechiadau arferol i'w hamddiffyn rhag afiechydon. Mae sicrhau bod eich plant yn cael eu brechiadau yn eu hamddiffyn nhw, eich teulu chi a'r gymuned yn ehangach.

Bydd apwyntiadau arferol yn cael eu hanfon atoch chi pan fydd eich plentyn yn 8 wythnos, 12 wythnos, 16 wythnos a rhwng 12 a 13 mis oed. Mae angen dwy neu dair dos i rai brechlynnau fod yn gwbl effeithiol. Os oes gan eich plentyn gyflwr iechyd hirdymor a'i fod rhwng chwe mis a dwy flwydd oed, efallai y bydd hefyd yn cael gwahoddiad i gael brechiad ffliw tymhorol yn ystod yr hydref.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu'r apwyntiadau. Os ydych chi wedi methu apwyntiad neu frechiad, cofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr. Cysylltwch â’ch meddygfa neu ymwelydd iechyd am gyngor.

Mae rhagor o fanylion am y brechiadau y mae eu hangen ar eich plentyn ym mhob apwyntiad ar gael isod.

 

8 wythnos

 

12 wythnos

 

16 wythnos

 

12 i 13 mis

 

Brechlynnau eraill

Bob hydref, bydd plant rhwng chwe mis a dwy flwydd oed â chyflwr iechyd hirdymor yn cael cynnig brechlyn ffliw tymhorol yn eu meddygfa. Bydd y brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn plant sy'n fwy agored i niwed rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy'n gysylltiedig â'r ffliw.

Efallai y bydd plant rhwng chwe mis a dwy flwydd oed â chyflwr iechyd hirdymor hefyd yn cael cynnig brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y gwahoddiadau hyn i sicrhau bod eich plentyn neu'ch plant yn gwella eu hamddiffyniad rhag afiechydon difrifol.