Mae iaith yn gymhleth! Ceir mwy na miliwn o eiriau ym mhob iaith! Mae iaith yn llywio ein dull o ddehongli'r byd, mae'n caniatáu i ni ddeall beth sy'n digwydd o'n cwmpas ni a rhannu ein meddyliau, ein teimladau a'n profiadau â phobl eraill.
Un o'r dulliau gorau o gynorthwyo pobl i ymdopi mewn sefyllfaoedd sy'n heriol iddynt yw newid ein dull o ddefnyddio iaith a'n dull o gyfathrebu â nhw. Gall rhai plant a phobl ifanc brofi anawsterau penodol o ran deall a defnyddio iaith. Gall hyn effeithio ar eu hymddygiad mewn sefyllfaoedd penodol.
Gall plant sydd â phroffiliau niwroddatblygiadol brofi anawsterau â sawl agwedd ar iaith a chyfathrebu, a gall hynny achosi llawer iawn o rwystredigaethau a chamddealltwriaeth. Gall hynny gynnwys trafferthion â'r canlynol: dilyn cyfarwyddiadau hirach, deall cwestiynau mwy haniaethol, dehongli ystyr pethau y bydd pobl yn eu dweud, deall pan fydd rhywun yn cellwair, gallu canfod y geiriau priodol i gyfleu'r hyn y maent yn dymuno'i ddweud, gallu cynnal sgwrs, gallu dehongli tôn llais a mynegiant wyneb pobl.
Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am holl feysydd gwahanol iaith a chynghorion ynghylch sut gallwch chi gynorthwyo plant a phobl ifanc a all brofi anawsterau â'r rhain.