Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Gwynedd

Croeso i'r Uned Gofal Babanod Arbennig yn Ysbyty Gwynedd. Rydym wedi'n lleoli ar lawr cyntaf Uned Mamolaeth Dewi Sant, rhwng y Wardiau Esgor a'r Wardiau Ôl-eni.

Mae gan yr Uned ddeg crud, un crud sefydlogi neu grud gofal dwys byrdymor, un crud dibyniaeth uchel ac wyth grud dibyniaeth isel. Bydd eich baban yn derbyn gofal gan dîm o staff meddygol o dan arweiniad Meddyg Ymgynghorol Paediatrig a thîm o staff nyrsio sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig gyda chymorth gweithwyr cymorth gofal iechyd, allgymorth y newydd-anedig, therapydd iaith a lleferydd, ffisiotherapydd a llawer o weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn y Tîm i roi cymorth i Wasanaeth y Newydd-anedig.

Mae croeso i chi ymweld â'r Uned neu i'w ffonio ar unrhyw adeg. Byddwn yn trafod ein polisi ymweld gyda chi gan ystyried eich anghenion a'ch dymuniadau ac yn rhoi rhif ffôn i chi y gallwch ei ddefnyddio i gysylltu â'r Uned yn uniongyrchol. Ar ôl i'ch baban gael ei dderbyn i'r uned a'ch bod wedi cyfarfod â'r staff sy'n gofalu amdanoch fel teulu, byddwn yn cynnig taith o amgylch ein Huned i chi. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw aelod o staff.

Rydym yn annog rhieni i ddod yn bartneriaid gofal gyda ni. Byddwch yn cael cymorth gyda'ch dewisiadau bwydo ac i ddatblygu eich sgiliau i ofalu am eich baban o adeg derbyn hyd at baratoi i'ch rhyddhau adref. I'r rhai sydd wedi dewis bwydo ar y fron neu i odro'r fron, mae gennym bympiau bron cludadwy y gallwch eu benthyca'n rhad ac am ddim yn ystod arhosiad eich baban ar ein Huned.

Mae ein llety i rieni, sef Tŷ Enfys wedi'i leoli ar y llawr gwaelod yn agos i fynedfa Dewi Sant. Rydym yn rhannu'r llety hwn gyda'r Ward Baediatrig. Mae croeso i chi wneud cais i aros yn Nhŷ Enfys a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i fodloni eich cais gan ddibynnu ar gyfraddau llenwi.

Mae gennym ystafell deuluoedd ar yr Uned, ac mae croeso i chi ei defnyddio. Mae cyfleusterau ar gyfer diodydd poeth, a set deledu a chyfleusterau DVD. Mae croeso i chi ddod â diodydd poeth i'r Uned, ond rydym yn gofyn i chi ddefnyddio cwpan â chaead arni wrth fynd â diodydd poeth at ymyl crud eich baban.

Cyn eich rhyddhau adref, byddwch yn cael gwahoddiad i aros yn yr ystafell mamau a babanod ar yr Uned gyda'ch baban. Mae gan yr ystafell gyfleusterau ystafell ymolchi en-suite, set deledu, ac mae cegin fach y gallwch ei defnyddio gerllaw. Bydd y nyrsys yn rhoi cymorth i chi yn ystod eich arhosiad.

Manylion Cyswllt 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Uned am wybodaeth – 01248 385019 / 384960.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r Uned Babanod Gofal Arbennig, Bangor.