Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Newyddenedigol

Rydym yn ymrwymedig i gydweithio â Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru ac unedau'r newydd-anedig ar draws Cymru i sicrhau bod eich profiad fel cleifion yn unrhyw rai o'n hunedau'n un positif ac sy'n eich grymuso.

Mae gan bob uned gofal y newydd-anedig/gofal arbennig babanod yng Ngogledd Cymru ddarpariaeth ar waith i amddiffyn diogelwch babanod, mae hyn yn cynnwys cael mynediad i'r uned trwy intercom.

Er mwyn lleihau'r risg o groes-heintio, rydym yn gofyn yn garedig i chi a'ch ymwelwyr olchi eich dwylo ac yna i ddefnyddio'r gel alcohol cyn mynd i'r mannau clinigol. Byddwn yn dangos i chi ble y dylid gwneud hyn ar bob un o'r unedau. Gadewch eich cotiau ar y cambrenni/yn y cypyrddau clo a ddarperir.  Peidiwch ag ymweld â'r unedau os oes gennych symptomau annwyd neu os ydych wedi cael dolur rhydd a chwydu dros y 48 awr ddiwethaf.

Mae croeso i chi dynnu lluniau o'ch baban eich hun, ond gofynnwn i chi barchu cyfrinachedd babanod eraill trwy beidio â thynnu lluniau ohonynt.  Peidiwch â thynnu lluniau o staff heb eu cydsyniad nhw.

Canolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC)

Y Ganolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC) yw'r uned fwyaf ar gyfer y newydd-anedig yng Ngogledd Cymru, ac mae'n cefnogi'r ddwy Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Wrecsam ac ym Mangor.  Rydym yn anelu at ddarparu gofal o'r ansawdd gorau i'n cleifion arbennig iawn a'u teuluoedd.  Rydym yn gweithio'n agos gyda rhwydweithiau cyfagos ar gyfer y Newydd-anedig yng Ngogledd-orllewin Lloegr ac rydym yn ymrwymedig i ddatblygu'r gwasanaeth yn barhaus, gan gynnwys addysgu a hyfforddi ein staff.