Neidio i'r prif gynnwy

Cydsynio

Cyn i'r therapydd eich asesu, bydd yn gofyn am eich caniatâd. Rydych yn rhydd i ddweud na, neu i ofyn am fwy o wybodaeth cyn i chi wneud penderfyniad ar unrhyw adeg.

Ar ôl yr asesiad, byddwch yn cael gwybodaeth ar lafar am opsiynau triniaeth briodol yn cynnwys manteision posibl ac unrhyw risgiau fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus am beth rydych eisiau ei wneud.

Efallai y gofynnir i chi arwyddo ffurflen i gydsynio i driniaethau penodol megis aciwbigo a thrin â llaw.