Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi

Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint)

Mae gwasanaeth Ffisiotherapi'r Dwyrain yn darparu gwasanaethau brys ac arferol i gleifion ar hyn o bryd.  Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi yn cael ei ddarparu o bell drwy alwadau ffôn/fideo neu drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb.  Cynigir apwyntiadau yn unol ag angen clinigol, arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chanllawiau atal heintiau.  Gellir cysylltu â’r gwasanaeth dros y ffôn neu drwy e-bost. Swyddfa Wrecsam/ Rhos – Ffôn: 03000 849790 neu dros E-bost: BCU.PhysioTeamEast@wales.nhs.uk

Gorllewin (Gwynedd ac Ynys Môn)

Mae gwasanaeth Ffisiotherapi'r Gorllewin yn parhau i ddarparu gwasanaethau brys ac arferol i gleifion.  Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu o bell dros y ffôn/fideo-gynadledda neu drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb yn unol ag angen clinigol, arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chanllawiau rheoli heintiau. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth dros y ffôn neu drwy e-bost: BCU.PhysioAdminWest@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01248 384100 / Alltwen 03000 852473 / YPS 03000 853132/ Dolgellau 03000 843253

Canol (Conwy a Sir Ddinbych)

Mae ffisiotherapi yn parhau i dderbyn cyfeiriadau. Bydd pob cyfeiriad yn cael ei frysbennu a chynhelir asesiad risg er mwyn darparu cyngor neu driniaeth ffisiotherapi arferol neu frys. Bydd apwyntiadau wedyn yn cael eu cynnal naill ai dros ffôn, drwy ymgynghoriad rhithwir neu wyneb yn wyneb.

Mae ein gallu i gynnig ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn dal i gael ei gyfyngu gan y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.  Rydym hefyd yn cynnig gweithgaredd grŵp wyneb yn wyneb lle bo’n briodol. Oherwydd galw eithriadol o uchel, mae ein hamseroedd aros ychydig yn hirach nag arfer. Gellir cysylltu â'r gwasanaeth trwy e-bostio: BCU.PhysioTeamCentral@wales.nhs.uk neu ffoniwch 03000 856010.

Mae ffisiotherapi’n helpu rhywun a effeithiwyd gan anaf, salwch neu anabledd datblygiadol neu anabledd arall i symud a gweithredu eto a hynny mor agos i normal â phosib.

Fel proffesiwn gofal iechyd, mae sylfaen wyddonol ffisiotherapi’n ymwneud ag amrywiaeth eang o waith sy’n golygu gweithio â phobl i hybu eu hiechyd a’u lles. Mae ffisiotherapyddion yn cyfuno eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dull o weithio er mwyn gwella ystod eang o broblemau corfforol sy’n gysylltiedig â gwahanol ‘systemau’r’ corff.

Mae ffisiotherapyddion yn gweithio gyda thimau amlbroffesiynol ar draws ysbytai cymuned, safleoedd yn y gymuned ac yng nghartrefi cleifion, yn ogystal â chlinigau cleifion allanol.

Mae ffisiotherapyddion yn gweithio mewn amryw o sefyllfaoedd iechyd gwahanol fel:

  • Gofal Dwys
  • Salwch Meddwl
  • Adferiad wedi Strôc
  • Iechyd Galwedigaethol
  • Gofal yr Henoed

Mae ffisiotherapyddion yn cyfuno eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dull o weithio er mwyn gwella ystod eang o broblemau corfforol sy’n gysylltiedig â gwahanol ‘systemau’r’ corff. Yn fwyaf arbennig maent yn trin:

  • Niwrogyhyrol (yr ymennydd a’r system nerfol)
  • Cyhyrysgerbydol (meinweoedd meddal, cymalau ac esgyrn)
  • Systemau resbiradol a chardiofasgiwlar (calon ac ysgyfaint)

Cyfeirir pobl yn aml am ffisiotherapi gan feddygon neu weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol eraill. O ganlyniadau i newidiadau mewn gofal iechyd, mae mwy a mwy o bobl yn cyfeirio’u hunain yn uniongyrchol at ffisiotherapyddion heb weld unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd o’r blaen.

Mae ffisiotherapyddion yn gweithio'n annibynnol, rhan amlaf fel aelod o dîm gyda gweithwyr proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol eraill. Nodweddion ffisiotherapi ydy myfyrio a rhesymu’n glinigol yn systematig, gan gyfrannu at a gosod sylfaen i ddull datrys problemau wrth ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.

Hunan Gyfeirio ar gyfer Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol

Mae Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol yn ymwneud â ffisiotherapi'r system cyhyrysgerbydol. Mae hyn yn golygu cyhyrau, esgyrn, cymalau, nerfau, gewynnau, cartilag a disgiau asgwrn y cefn.

Os ydych yn teimlo eich bod yn dioddef o anhwylder cyhyrysgerbydol a allai gael budd o ffisiotherapi, bellach gallwch wneud cyfeiriad uniongyrchol i'ch ardal ffisiotherapi lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn cynnig mwy o ddewis i gleifion a mynediad cyflymach at wasanaethau ysbyty heb fod angen ymweld â'r meddyg teulu.

Sylwch nad yw'r opsiwn cyfeirio hwn ar gael i gleifion dan 18 oed neu ar gyfer problemau niwrolegol, resbiradol neu gynaecolegol.

Taflen Wybodaeth ar gyfer Hunan Gyfeirio at Ffisiotherapi