Rydym yn sylweddoli bod canslo apwyntiadau weithiau yn anochel, ond rhowch o leiaf 24 awr o rybudd lle bo'n bosibl er mwyn i ni gynnig eich apwyntiad i glaf arall.
Os ydych yn methu â dod i'r apwyntiad hwn heb roi gwybod ymlaen llaw neu'n canslo dau apwyntiad dilynol byddwch yn cael eich rhyddhau o'r adran ffisiotherapi. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwch yn cael cynnig apwyntiad arall.