Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Cyntaf

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, byddwch yn cael eich gweld gan aelod o’r tîm Ffisiotherapi.

Bydd y ffisiotherapydd yn trafod y rheswm dros eich cyfeiriad gyda chi.  Yna bydd yn cynnal asesiad cynhwysfawr, a fydd yn cymryd hyd at 45 munud.

Gofynnir cwestiynau i chi am sut mae'r broblem yn effeithio arnoch ynghyd â'ch iechyd cyffredinol a ffordd o fyw. Yna, bydd archwiliad corfforol er mwyn penderfynu beth allai fod yn gyfrifol am achosi eich symptomau.

Ar ddiwedd yr asesiad, bydd y ffisiotherapydd yn egluro ei ganfyddiadau i chi, ac yn trafod cynllun gweithredu arfaethedig yn cynnwys yr angen am unrhyw apwyntiadau pellach. Rhoddir pob cyfle i chi ofyn cwestiynau.