Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae gwneud cwyn am fy neintydd GIG?

Os dymunwch gwyno am y gwasanaethau a ddarperir gan eich practis deintyddol, dylech godi’r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda’ch practis deintyddol, neu drwy reolwr y practis, o fewn 12 mis.

Os nad ydych am ddelio â’r practis yn uniongyrchol, gallwch gysylltu â’n Tîm Cwynion. Gall eich Cyngor Iechyd Cymuned lleol hefyd ddarparu cyngor a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim i gleifion sydd â chwyn am wasanaethau’r GIG.

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb terfynol i’ch cwyn, gallwch gyfeirio’ch cwyn yn uniongyrchol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol oddi ar holl gyrff y llywodraeth ac mae’r gwasanaeth a ddarperir yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drwy edrych ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.