Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr Cymorth Cyswllt Iechyd

Mae gweithwyr cymorth y Tîm Cyswllt Iechyd yn cynorthwyo pobl sydd ag anableddau dysgu yn ardal BIPBC i fanteisio ar ofal cychwynnol ac eilaidd. Maent yn rhoi cymorth ac addysg arbenigol i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol o ran helpu i fanteisio ar apwyntiadau a gwasanaethau iechyd.

Maent hefyd yn cyflwyno rhaglen ddisensiteiddio'r gwaed i bobl sy'n hynod ofidus ynghylch cael profion gwaed. Mae gan y rhaglen gyfradd uchel o lwyddiant ac mae'n fodel sydd wedi'i fabwysiadu gan nifer o wasanaethau eraill ar draws y DU.

Mae'r gweithwyr cymorth Cyswllt Iechyd yn datblygu gwybodaeth hawdd ei darllen i bobl a allai fod ag anhawster o ran deall triniaethau penodol neu eu diagnosis. Mae'n eu helpu i wneud dewis cytbwys ynghylch y cynllun triniaeth ac yn sicrhau eu bod yn cael cymaint o reolaeth dros eu triniaeth a'u gofal â phosibl.

I fanteisio ar y gwasanaethau hyn, cysylltwch â'r Prif Gyswllt neu'r Nyrs Gyswllt Llym.