Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Cyswllt Llym ar gyfer Oedolion sydd ag Anableddau Dysgu

Mae'r Nyrsys Cyswllt Gofal Cychwynnol (PLNs) yn gweithio mewn partneriaeth â phractisau meddygon teulu ar draws Gogledd Cymru. Mae'r PLNs yn ymarferwyr anableddau dysgu profiadol sydd â'r wybodaeth a'r sgiliau i ddarparu hyfforddiant, cyngor a chymorth i staff gofal cychwynnol o ran diwallu anghenion iechyd pobl sydd ag anabledd dysgu.

Mae'r PLNs yn cydweithio â meddygon teulu a staff eraill gofal cychwynnol i gynllunio Gwiriadau Iechyd Blynyddol Cymru o ansawdd da ac i'w cyflwyno. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol a thimau anableddau dysgu cymunedol i gynnal Cofrestr o Anableddau Dysgu sy'n gyfredol.

Mae PLNs yn gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion, aelodau'r teulu a gofalwyr ar sail unigol i roi cyngor a chymorth ar addasiadau rhesymol.

Maent hefyd yn rhoi arweiniad ar y ddeddfwriaeth ddiweddaraf o ran gweithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu. Trwy weithio gyda chleifion, teuluoedd, gofalwyr a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mae'r PLNs yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd ac atal derbyniadau i'r ysbyty y gellid eu hosgoi.

Mae'r nyrsys Cyswllt Gofal Cychwynnol yn rhoi cymorth i'r canlynol:
  • Staff gofal cychwynnol
  • Sefydliadau darparwyr gofal
  • Staff anableddau dysgu oedolion a'r gwasanaeth cymunedol
  • Rhieni/gofalwyr
  • Defnyddwyr gwasanaeth
  • Myfyrwyr nyrsio blwyddyn gyntaf a thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor
Beth allwch ei ddisgwyl?
  • Gwasanaeth a fydd yn meithrin cysylltiadau agosach rhwng gwasanaethau anableddau dysgu cymunedol a gofal cychwynnol.
  • Pwynt cyswllt i addysgu, rhoi cymorth a chyngor ar gwblhau gwiriadau iechyd blynyddol.
  • Cyngor cyflym a hygyrch ar bob agwedd ar anghenion iechyd anableddau dysgu i'r rheiny sydd ar gofrestr eich meddyg teulu.
Manylion cyswllt Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Cychwynnol Anableddau Dysgu

Wrecsam a Sir y Fflint

Ffôn: 01978 298589

Sir Ddinbych a Chonwy, Gwynedd a Môn

Ffôn: 01824 706016 neu 07919 302 374

 

Ar gael o 9.00am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.