Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Ysbytai Anableddau Dysgu

Mae gennym Nyrsys Cyswllt Llym (ALNs) pwrpasol mewn Anableddau Dysgu sy'n gweithio ym mhob un o'n hysbytai cyffredinol dosbarth. Mae'r ALNs yn ei gwneud yn haws i gleifion sydd ag anableddau dysgu i fanteisio ar wasanaethau ysbyty.

Lle bo angen, maent yn bwynt cyswllt i deuluoedd a gofalwyr, yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i gleifion a staff sydd ynghlwm wrth ddarparu eu gofal. Mae ALNs yn rhoi cymorth i gleifion o ran cael cymaint o reolaeth dros eu triniaeth â phosibl trwy sicrhau eu bod yn deall eu diagnosis, opsiynau triniaeth a threfniadau ôl-ofal. Lle bo gan gleifion ddiffyg galluedd, maent yn sicrhau bod gofal a thriniaeth yn cael eu cynnig er eu lles pennaf a chaiff y Ddeddf Galluoedd Meddyliol ei dilyn.

Mae ALNs yn rhoi cymorth i oedolion sydd ag anableddau dysgu, eu teuluoedd/gofalwyr a staff ysbyty o ran:

  • Helpu oedolion sydd ag anabledd dysgu i gael gwell dealltwriaeth am eu hangenion iechyd a'u triniaeth.
  • Sicrhau bod addasiadau rhesymol angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith.
  • Eirioli i oedolion sydd ag anabledd dysgu o ran galluedd, cydsyniad, lles pennaf a mynd ati'n rhagweithiol i gadw at y ddeddf galluedd meddyliol.
  • Cysylltu â staff llym wardiau a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill i sicrhau gwasanaeth di-dor trwy dderbyn, trin a rhyddhau.
  • Gwella profiad cleifion a phrofiadau'r rheiny sy'n rhoi cymorth iddynt.
  • Adnabod a hyfforddi aelodau allweddol o staff ym mhob ward ac adran yn y lleoliad llym i fod yn bencampwr anableddau dysgu.
  • Cynnig a chyflwyno hyfforddiant cyffredinol o ran ymwybyddiaeth o anableddau dysgu i staff wardiau a lle bo angen, cyngor ar faterion unigol yn ymwneud â chleifion.
  • Darparu gwybodaeth Hawdd ei Darllen ar asesu, diagnosis, triniaethau ac ôl-ofal.
  • Sicrhau bod pobl sydd ag anabledd dysgu'n derbyn triniaeth brydlon a phriodol a'u bod yn parhau i fod yn ddiogel.
Cysylltu â'n Nyrsys Cyswllt Anableddau Dysgu Llym

Ysbyty Maelor Wrecsam

Ffôn: 07973863877
Llinell tir: 03000 847043

Ysbyty Gwynedd

Ffôn: 07833634492
Llinell tir:
03000 851229

Ysbyty Glan Clwyd

Ffôn: 07974037474
Llinell tir: 03000 846797

Mae ALNs ar gael o 9.00am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.