Cysylltwch â'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion sydd yma i wrando arnoch.
Rydym yn anelu i ddarparu gofal a thriniaeth o'r radd flaenaf ac mae'n bwysig ein bod yn croesawu sylwadau a dysgu o brofiadau pobl, boed yn dda neu'n ddrwg. Os ydych eisiau gwneud cwyn ffurfiol cysylltwch â'r Tîm Pryderon.
Anfonwch e-bost neu lythyr at y sawl syn annwyl i chi sydd yn yr ysbyty.
Os ydych yn teimlo bod aelod o staff, tîm neu wirfoddolwr wedi mynd gam ymhellach yn y Bwrdd Iechyd, gallwch eu henwebu yma ar gyfer ein gwobr Seren Betsi misol.
Mae taflenni gwybodaeth i gleifion yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi ac eraill sy'n rhan o'ch gofal. Ewch ar yr adran Cyngor a Gwybodaeth Iechyd ar y wefan hon i ganfod y wybodaeth sy'n berthnasol i chi.
Os oes angen mwy o gefnogaeth neu arweiniad arnoch cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion. Mae GIG 111 yn adnodd arall ar-lein sy'n rhoi mynediad i chi at wybodaeth a chymorth y GIG.