Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion

Rydym yn ceisio rhoi'r gofal a'r driniaeth gorau posibl.  Mae'r mwyafrif helaeth yn hapus gyda'r gofal iechyd y maent wedi'i gael gennym, ond weithiau ni fydd pethau cystal â'r disgwyl. Pan fydd hynny'n digwydd, mae angen i ni wybod beth aeth o’i le i wneud pethau'n well.  

Yn aml, gallwn ddatrys pryderon a phroblemau yn y fan a'r lle. Os oes gennych bryderon am y gofal neu'r gwasanaethau yr ydym yn ei ddarparu, rhannwch eich teimladau a'ch profiadau gyda ni ar y pryd drwy siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff ar y ward neu'r adran fel y Rheolwr neu’r Metron.

Os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â nhw'n uniongyrchol, neu os ydych yn teimlo nad yw'r mater wedi cael ei ddatrys cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS). Bydd ein tîm ymroddedig yn codi pryderon ar eich rhan i ddatrys pethau'n gyflym.  

Os ydych yn dal yn anhapus, gallwch wneud cwyn ffurfiol drwy gysylltu â'r Tîm Cwynion, a fydd yn gofyn i chi ysgrifennu eich pryderon i lawr ar bapur. Gallwn ymddiheuro, ymchwilio a cheisio gwneud pethau'n iawn. Byddwn hefyd yn dysgu gwersi a gwella gwasanaethau pan fydd angen iddynt fod yn well.

Cysylltu â'r Tîm Cwynion

Gwybodaeth Cyswllt y Tîm Cwynion

Cwynion iaith

Bydd unrhyw gwynion yn ymwneud â chydymffurfiad â’r Safonau neu ddiffyg ar ran y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hadrodd i Fforwm Strategol yr Iaith Gymraeg, ac yn dilyn trefn gwynion arferol y Bwrdd Iechyd – Gweithio i Wella / Putting Things Right.

E-form (ailgyfeirio i’r wefan SmartSurvey)

Cyflwynwch eich cwyn ar-lein

Ffôn:  03000 851234
E-bost BCU.TimPryderon@wales.nhs.uk
Llythyr Tîm Cwynion, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
Taflen Gweithio i Wella, PDF
Adroddiad Gweithio i Wella 2019/20, PDF
Gwybodaeth mewn Iaith Arwyddo Brydeining (BSL), ar fideo

Llais Gogledd Cymru

Mae Llais Gogledd Cymru (sef Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru gynt) yn gorff statudol annibynnol sydd ar wahân i'r Bwrdd Iechyd. Sefydlwyd Llais gan Lywodraeth Cymru a daeth i rym ar 1 Ebrill 2023 i roi llais i bobl Cymru wrth gynllunio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u darparu – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae gan Llais Gogledd Cymru dîm sy’n gallu darparu gwasanaeth eiriolaeth a chymorth annibynnol rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n mynegi pryderon am y GIG, gofal cymdeithasol a thriniaeth.

Gellir cysylltu â nhw drwy eu gwefan: Gogledd Cymru | LLais (llaiscymru.org) 

Llais Gogledd Cymru (Bangor)
11 Chestnut Court
Ffordd y Parc
Parc Menai
BANGOR
LL57 4FH

Rhif Ffon:  01248 679284

Llais Gogledd Cymru (Wrexham)
Units 1B & 1D Wilkinson Business Park      
Clywedog Road South        
WREXHAM

Rhif Ffon: 01978 356178