Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Cydnabod Staff a Gwirfoddolwyr

Hoffech chi gael ffordd arall o ddweud diolch? A oes aelod o staff, Tîm neu wirfoddolwr wedi mynd gam ymhellach? Gallwch eu henwebu ar gyfer y Wobr misol Seren Betsi

Cliciwch yma am ffurflen enwebu

Yma yn BIPBC, rydym yn cydnabod mai ein gweithlu yw ein hased pwysicaf un wrth gyflawni ein pwrpas o 'Wella Iechyd a Chyflawni Gofal Ardderchog.' Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith caled ac ymrwymiad a ddangosir gan bawb, ac rydym eisiau dangos ein gwerthfawrogiad mewn ffyrdd gwahanol, ac i rannu hyn â'r sefydliad ehangach a thu hwnt. Gall staff neu y cyhoedd enwebu unrhyw aelod staff, tim neu gwirfoddolwr sydd yn gweithredu o fewn BIPBC

Sut wyf yn pleidleisio?

Cliciwch ar y ddolen enwebu uchod i lawr lwytho ffurflen enwebu. Sicrhewch eich bod yn rhoi rheswm amlwg PAM eich bod yn enwebu'r Unigolyn neu'r Tîm. Mae enghreifftiau go iawn yn ffordd dda o egluro. Cofiwch ni fydd y grŵp "Balch o" yn adnabod yr unigolyn, felly gorau po fwyaf yw'r disgrifiad rydych yn ei roi.

Pwy sy'n dewis?

Mae gan BIPBC grwpiau "Balch o" mewn lleoliadau gwahanol ar draws y sefydliad. Mae gan y grwpiau hyn ystod eang o staff yn cynrychioli ystod o swyddi.  Bydd y grŵp yn dewis yr Enillydd ar sail yr enwebiad a ddarparwyd.

Beth os yw'r Unigolyn / Tîm yn ennill?

Bydd y Prif Weithredwr yn ymweld â nhw yn y gweithle (yn annisgwyl!) ac yn cyflwyno Tlws, Tystysgrif, Bathodyn Seren Betsi a ffurflen enwebu a chyfle i ddathlu'r wobr.

Beth os nad yw'r Unigolyn / Tîm yn ennill?

Mae pob enwebai'n cael eu cydnabod. Bydd yr enwebai'n cael llythyr a cherdyn gan y Prif Weithredwr a bydd ei stori'n cael ei gyhoeddi ar ein Cyfryngau Cymdeithasol

 

Edrychwch ar ein tudalen BCUHB Best ar Facebook neu Twitter.

Os hoffech fwy o wybodaeth e-bostiwch BCU.SerenBetsiStar@wales.nhs.uk