Mae gan ein Tîm Profiad Cleifion a Gofalwyr raglen gynhwysfawr sy’n casglu profiadau cleifion.
Bob dydd, rydym yn casglu barn ein defnyddwyr gwasanaeth fel y gallwn wir ddeall beth sy'n bwysig yn enwedig pan fyddent fwyaf bregus. Wedyn, gyda'ch caniatâd chi, byddwn yn rhannu'r adborth gyda'n staff.
Rydym eisiau gwrando a dysgu o'ch profiad o dderbyn ein gwasanaethau a chlywed eich barn am beth ydym yn ei wneud yn dda, neu lle mae angen i ni ei wella.
Rydym yn ceisio darparu gwasanaeth o'r ansawdd gorau posibl i'n cleifion a'n defnyddwyr gwasanaeth felly mae eich sylwadau yn bwysig iawn i ni. Rydym yn credu bod lle i wella bob amser ac mae eich llais wrth wraidd beth ydym yn ei wneud.
Ffôn: 03000 851234
E-bost: BCU.PatientExperience@wales.nhs.uk