Neidio i'r prif gynnwy

Anfonwch neges at y sawl sy'n annwyl i chi sydd yn yr ysbyty

Rydym yn deall ei bod yn anodd os oes gennych unigolion sy'n annwyl i chi yn yr ysbyty ac nad ydych yn gallu ymweld â nhw.  

Yn awr gallwch gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau neu'ch perthnasau sydd yn un o ysbytai Betsi Cadwaladr drwy ddefnyddio ein gwasanaeth Llythyr i Anwyliaid.  Teipiwch eich e-bost a dilynwch y cyfarwyddiadau isod.  Yna, bydd eich neges yn cael ei anfon i'r sawl sy'n annwyl i chi tra'u bod yn ein gofal.   

Yn anffodus, nid ydym yn gallu anfon ymateb gan y sawl sy'n annwyl i chi.  I ddiogelu cyfrinachedd claf, nid yw'r gwasanaeth yn gallu darparu diweddariadau perthnasol i'r driniaeth neu unrhyw fanylyn arall am yr unigolyn sydd yn ein gofal.

Sut i gysylltu â'r sawl sy'n annwyl i chi:
  1. Dechreuwch e-bost newydd ac ysgrifennwch enw ysbyty a ward y sawl sy'n annwyl i chi yn y llinell pwnc
  2. Rhowch enw llawn a dyddiad geni'r sawl sy'n annwyl i chi ar ben yr e-bost (heb y wybodaeth hon, ni allwn sicrhau bod y neges yn cyrraedd y derbynnydd).
  3. Ysgrifennwch eich neges, ond byddwch yn ymwybodol o'r wybodaeth yn eich e-bost a pheidiwch â chynnwys dim sy'n gyfrinachol neu'n rhy bersonol.
  4. Peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i'r sawl sy'n annwyl i chi pwy ydych chi.
  5. Gwiriwch eich bod wedi teipio'r cyfeiriad e-bost ganlynol yn gywir yn gyntaf ac yna ei anfon at 
  6. BCU.LetterToLovedOnes@wales.nhs.uk

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn hefyd: 03000 851234

Mae llinellau ffôn a gwasanaeth e-bost Llythyr i Anwyliaid ar agor o 9am - 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener (gan eithrio Gwyliau Banc).

Bydd y negeseuon yn cael eu danfon i'r wardiau, gan bost yr ysbyty neu drwy e-bost a ddynodwyd i'r wardiau.  Mae Gwasanaeth PALS y Bwrdd Iechyd yn rheoli'r broses ar gyfer bob un o'n lleoliadau ysbyty.

Hysbysiad Prosesu Teg

Ni fyddwn yn casglu nac yn rhannu unrhyw ddata personol gan gynnwys cyfeiriadau e-bost neu unrhyw wybodaeth arall sydd wedi'i chynnwys yng nghorff e-bost heblaw at y diben y bwriedir hyn.

BSL

Sain Cymraeg 
Rhif ffôn: 07799533547
E-bost: accessiblehealth@signsightsound.org.uk