Neidio i'r prif gynnwy

Llyfr Ryseitiau

Rydym ni wedi dylunio Llyfr Ryseitiau sy’n Seiliedig ar Hawliau Plant mewn partneriaeth i weithredu fel adnodd defnyddiol ar gyfer sefydliadau ar draws Gogledd Cymru er mwyn rhoi dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau ar waith. Mae’r Llyfr Ryseitiau yn rhannu dysgu gwerthfawr a mewnwelediadau allweddol gan blant a phobl ifanc am yr hyn sy'n bwysig iddynt a'r hyn y maent yn teimlo yw'r cynhwysion allweddol wrth greu amgylcheddau lle maent yn teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed, eu lles yn cael ei feithrin a bod eu hawliau'n cael eu gwarchod.

Ein gobaith yw y bydd geiriau a gweithiau plant a phobl ifanc yn eich ysbrydoli, fel y maent wedi ein hysbrydoli, i ystyried hawliau plant ac i’ch atgoffa o’r rôl bwysig sydd gennym ni fel oedolion wrth sicrhau ein bod yn clywed eu lleisiau ac yn darparu  cyfleoedd ar eu cyfer i ddylanwadu ar sut y mae ein systemau a’n cymunedau’n datblygu yma yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r Llyfr Ryseitiau’n cynnwys pum adran, gyda phob un ohonynt yn ystyried yr hyn sydd bwysicaf i blant a phobl ifanc am garedigrwydd, eu cymunedau, oedolion a’u hiechyd a lles. I weld yr hyn a oedd ganddynt i’w ddweud wrthym ni, edrychwch ar yr adrannau isod:

I gael copi o’r Llyfr Ryseitiau, e-bostiwch BCU.CAMHSNeuroPEQueries@wales.nhs.uk