Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o'r Rhaglen - Sesiwn Ragarweiniol Gofalu Amdanaf Fi ar gyfer Gofalwyr

Trosolwg o'r rhaglen

Trosolwg o'r rhaglen ar gyfer ein sesiwn ragarweiniol Gofalu Amdanaf Fi ar gyfer gofalwyr. Mae'r cwrs ar gael i ofalwyr di-dâl sy'n 18 oed ac yn hŷn. 

Mae'r pynciau dan sylw yn cynnwys:

  • Rheoli diwrnodau gwael 
  • Gofal traed personol
  • Atal codymau
  • Gweithgarwch corfforol
  • Bwyta'n iach
  • Atal a rheoli heintiau
  • Rheoli meddyginiaethau
  • Ymlacio

Cwrs un sesiwn yw hwn ac mae ar gael mewn lleoliadau cymunedol ledled Gogledd Cymru. Mae fersiwn ar-lein ar gael gan ddefnyddio unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd.

Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.