Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Raglen y Cwrs - Canser: Ffynnu a Goroesi

Trosolwg o'r rhaglen

Trosolwg o raglen ein cwrs 6 wythnos i gefnogi'r rhai y mae canser yn effeithio arnynt i gynnal a gwella ansawdd eu bywyd drwy hunanreoli. 

Wythnos 1

  • Trosolwg o hunanreoli 
  • Defnyddio eich meddwl i rheoli eich symptomau 
  • Rheoli blinder a chael cefnogaeth
  • Creu cynllun gweithredu

Wythnos 2 

  • Creu cyllun gweithredu
  • Adborth a datrys problemau 
  • Delio ag emosiynau anodd ac iselder 
  • Cael noson dda o gwsg
  • Adennill ffitrwydd, gweithgarwch cofforol ac ymarfer corff 

Wythnos 3

  • Defnyddio eich meddwl i rheoli eich symptomau 
  • Creu cyllun gweithredu
  • Adborth a datrys problemau 
  • Rheoli poen
  • Byw ag ansicrwydd
  • Gwneud penderfyniadau
  • Cylluniau ar gyfer y dyfodol

Wythnos 4

  • Creu cynllun gweithredu 
  • Adborth a datrys problemau 
  • Canser a newidiadau i'r corff
  • Bwyta'n iach 
  • sgiliau cyfathrebu 
  • Rheoli pwysau 

Wythnos 5

  • Defnyddio eich meddwl i rheoli eich symptomau 
  • Creu cynllun gweithredu 
  • Adborth a datrys problemau 
  • Delio ag emosiynau anodd ac iselder 
  • Adennill ffitrwydd, gweithgarwch cofforol ac ymarfer corff 
  • Gwneud penderfyniadau 
  • Rheoli pwysau 

Wythnos 6

  • Defnyddio eich meddwl i rheoli eich symptomau 
  • Creu cynllun gweithredu 
  • Adborth a datrys problemau 
  • Cynlluniau ar gyfer y dyfodol 
  • Canser a pherthnasau
  • Gweithio gyda'ch gweithiwr proffesiynol gofal iechyda'ch  system gofal iechyd 

Gweithgarwch y tu allan i'r cwrs fesul sesiwn
 

Sesiwn 1

  • Darllen: Edrychwch ar lyfr y cwrs am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau a drafodwyd yn y sesiwn hon

Sesiwn 2

  • Darllen: Edrychwch ar lyfr y cwrs am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau a drafodwyd yn y sesiwn hon
  • Efallai y byddwch am gadw dyddiadur am eich teimladau.
  • Yn ystod Sesiwn 3, byddwn yn trafod gwneud penderfyniadau. Erbyn y sesiwn yr wythnos nesaf, meddyliwch am rywbeth yn eich bywyd y mae angen i chi wneud penderfyniad amdano.

Sesiwn 3

  • Darllen: Edrychwch ar lyfr y cwrs am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau a drafodwyd yn y sesiwn hon
  • Dewiswch un o'r dulliau o fonitro ymdrech a gwiriwch lefel eich ymdrech yn ystod gwahanol weithgareddau ac ymarferion.
  • Yn ystod Sesiwn 4, byddwn yn edrych ar yr hyn rydym ni'n ei fwyta am 2 ddiwrnod yr wythnos hon. 
  • Rydym yn argymell dewis un diwrnod yn ystod yr wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos oherwydd bydd ein arferion bwyta yn aml yn wahanol ar benwythnosau.
  • Yn ystod yr adborth, byddwn yn rhannu'r gwersi y gwnaethom eu dysgu os ydym eisiau gwneud newidiadau i'n rhaglen gweithgarwch corfforol a/neu ein harferion bwyta.
  • Bydd y wybodaeth am y pethau y byddwn yn eu bwyta yn ddefnyddiol pan fyddwn ni'n trafod bwyta'n iach yr wythnos nesaf.

Sesiwn 4

  • Darllen: Edrychwch ar lyfr y cwrs am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau a drafodwyd yn y sesiwn hon. 
  • Efallai y byddwch am barhau i gadw dyddiadur i gofnodi eich teimladau.
  • Edrychwch ar labeli'r bwyd y byddwch yn eu bwyta'n aml.

Sesiwn 5

  • Darllen: Edrychwch ar lyfr y cwrs am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau a drafodwyd yn y sesiwn hon.
  • Dewiswch un o'r dulliau o fonitro ymdrech a gwiriwch lefel eich ymdrech yn ystod gwahanol weithgareddau ac ymarferion.
  • Sylwch ar feddyliau negyddol, ynoch chi'ch hun ac mewn eraill, a cheisiwch ymarfer newid y meddyliau hyn am rai mwy cadarnhaol.
  • Hoffem eich gwahodd i ffonio, e-bostio neu ysgrifennu llythyr at eich meddyg/y sefydliad sy'n darparu'r cwrs hwn i esbonio beth rydych chi wedi'i gyflawni yn ystod y cwrs. Os nad ydych chi'n fodlon â'ch cynnydd dros y 6 wythnos diwethaf, buasem yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu llythyr yn egluro eich rhesymau. Bydd y llythyr yn cael ei anfon at ddatblygwyr y cwrs hwn.
  • Nid oes rhaid i chi bostio na dangos y llythyrau hyn, ond dewch â nhw gyda chi yr wythnos nesaf i'w defnyddio yn ystod y gweithgaredd rhannu. Byddai’n ddefnyddiol iawn pe baech chi’n postio'r llythyr at eich meddyg neu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs hwn, er mwyn rhannu'r neges am y rhaglen.

Sesiwn 6

  • Darllen: Edrychwch ar lyfr y cwrs am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau a drafodwyd yn y sesiwn hon.

Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.