Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i ffrindiau a theulu – Sut gallwch chi helpu?

‘Dyw hi ddim ond yn naturiol bod y rhan fwyaf o rieni newydd yn teimlo rhyw fath o bryder yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf fel yr ydych yn addasu i’ch rolau newydd. Fodd bynnag, os yw’r pryder yn dod yn gyson ac yn effeithio ar fywyd dyddiol, yna fe all eich partner, ffrind neu aelod o’r teulu fod angen peth cymorth ychwanegol a help.

Gallwch eu cynorthwyo nhw drwy:

  • Eu hannog nhw i siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol
  • Siarad â’i gilydd, tawelu eu meddwl ac awgrymu eu bod yn ysgrifennu unrhyw bryderon i lawr fel y gallant eu rhannu gyda gweithiwr iechyd proffesiynol
  • Helpu o gwmpas y tŷ
  • Gosod cyfyngiadau gyda ffrindiau a theulu fel na fydd ymwelwyr yn llethol
  • Lle’n bosibl eu hebrwng i apwyntiadau meddyg
  • Addysgu eich hun ynghylch iechyd meddwl yn y cyfnod ôl-enedigol
  • Eistedd gyda’ch gilydd, gadael iddynt wybod eich bod yno, heb unrhyw wrthdyniadau e.e. Ffôn, Teledu ac ati
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud cyswllt llygad pan fyddwch yn cyfathrebu â’ch gilydd
  • Eu hannog i orffwys
  • Gofyn beth allwch chi ei wneud i helpu
  • Gwrando arnynt
  • Bod yn amyneddgar
  • Edrychwch ar y rhain awgrymiadau a gwybodaeth defnyddiol yn ymwneud â chefnogi yn ystod y beichiogrwydd, genedigaeth a thu hwnt. 

Gall gofalu am rywun sy’n cael trafferth gyda phryder amenedigol neu iselder fod yn drallodus.

Fe allech deimlo:

  • Yn ddryslyd neu’n ansicr ynghylch beth i’w ddweud neu i’w wneud er mwyn helpu: “Dw i  ddim yn gwybod beth i’w ddweud rhag ofn i mi wneud pethau’n waeth”
  • Diwerth: “Does dim byd rydw i’n ei ddweud neu ei wneud yn helpu!”
  • Rhwystredig a blin: “Pam maen nhw’n bod fel hyn pan rydw i’n trio mor galed?”
  • Wedi eich llethu: “Mae o i gyd yn ormod!”
  • Dieithrio: “Dw i ddim yn gwybod sut i ymwneud â’r profiad hwn”
  • Ansicr sut neu pryd i helpu: “Ydw i’n ymyrryd? Ddylwn i fod yn helpu rhagor? Ddylwn i fod yn gadael iddyn nhw gael eu lle?”
  • Teimlad o golled: “Pryd mae’r unigolyn yn mynd i fod yn ‘nhw eu hunain’?”

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol

Gellir defnyddio’r adnoddau canlynol i gael mynediad at gymorth os yw eich partner, ffrind neu aelod o’r teulu yn cael trafferth gyda’u iechyd meddwl a’u lles:

  • Hwb Iechyd Meddwl – Mae ein hwb iechyd meddwl a’n lles yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi gael mynediad at ystod o gymorth a allech fod eu hangen.
  • Solihull Approach – Cyrsiau am ddim ar-lein i rieni a gofalwyr. 
  • SilverCloud - therapi ar-lein am ddim – Gall pobl 16 oed a throsodd yn profi pryder ysgafn i gymedrol, iselder neu straen gofrestru ar gyfer cwrs 12-wythnos am ddim cwrs therapi SilverCloud ar-lein drwy eu ffôn glyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur.
  • Parabl the Talking Therapies Partnership – Mae Therapïau Siarad Parabl yn darparu ymyriadau therapiwtig tymor byr i unigolion sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin neu ddigwyddiadau bywyd heriol a all fod yn effeithio ar eu lles emsosiynol.
  • Mind Cymru – Gwneud iechyd meddwl yn flaenoraieth bob dydd.
  • Pum Ffordd at Les – Camau syml y gallwn i gyd eu cymryd i edrych ar ôl ein iechyd meddwl a’n lles.
  • The Pregnancy and Post-birth Wellbeing Plan | Tommy's – Mae’r Cynllun Lles yn eich helpu i gychwyn meddwl am sut rydych yn teimlo’n emosiynol a pha gymorth a allech fod ei angen yn eich beichiogrwydd ac ar ôl yr enedigaeth. 
  • Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) – Adnoddau ar iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd, yn cynnwys y defnydd o feddyginiaethau yn ystod beichogrwydd a bwydo ar y fron.