Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth gyda beichiogrwydd, y geni, a thu hwnt

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer tadau, partneriaid ac aelodau o’r teulu sy’n cefnogi rhywun yn ystod beichiogrwydd, y geni a thu hwnt.

Os ydych chi a’ch partner yn cynllunio beichiogi ar hyn o bryd, gall dilyn y cyngor iechyd a ffordd o fyw iach wella eich siawns o feichiogrwydd iach.   

Cefnogaeth yn ystod beichiogrwydd

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i gymryd rhan yn y beichiogrwydd a chefnogi'r unigolyn sy'n feichiog:

Gwybodaeth i bartneriaid geni

Y peth pwysicaf sydd ei angen gennych chi, fel y partner geni, yw bod yno i’ch partner wrth iddi baratoi i roi genedigaeth i’r babi. Gallwch ei chynorthwyo i baratoi ar gyfer y geni trwy:  

  • Ei helpu i bacio ei bag ysbyty gydag eitemau hanfodol. Cofiwch bacio ambell beth hanfodol ar eich cyfer chithau hefyd.
  • Bod yno i dawelu ei meddwl am unrhyw ofnau neu bryderon sydd ganddi am y geni.  
  • Ei helpu i benderfynu beth mae hi’n dymuno ei gynnwys yn ei chynllun geni gan y gall hyn fod yn fodd iddi deimlo fod ganddi fwy o reolaeth.
  • Cynllunio eich i’r ffordd uned famolaeth.
  • Cael sedd car y babi’n barod.
  • Paratoi iddi ddychwelyd adref o’r ysbyty wedi i’r babi gael ei eni.

Does dim modd gwybod sut brofiad bydd y geni, neu sut bydd yr un ohonoch yn ymdopi, ond fe all y partner geni helpu mewn sawl ffordd. Mae awgrymiadau defnyddiol ar gyfer partneriaid geni i'w gweld ar wefan GIG 111 Cymru.

Iechyd Meddwl a Lles

Mae'n naturiol y bydd y rhan fwyaf o rieni newydd yn teimlo rhyw fath o orbryder a theimladau cymysg yn ystod yr wythnosau cyntaf wrth i chi addasu i'ch rolau newydd. Fodd bynnag, os bydd hyn yn straen cyson, ac yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae’n bosibl y bydd eich partner, eich ffrind neu eich aelod teulu angen cefnogaeth a chymorth ychwanegol.

Fel tad, partner neu aelod o’r teulu, mae’n debygol y bydd y beichiogwyd yn effeithio arnoch chi hefyd. P’un a oedd y beichiogrwydd wedi’i gynllunio ers amser, neu’n annisgwyl, mae’n naturiol i chithau deimlo emosiynau amrywiol.  

Ni ddylech fyth anwybyddu eich teimladau eich hun, mae gofyn am gymorth yn rhywbeth i’w groesawu. Mae ein canolfan iechyd meddwl a lles yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i gyrraedd y math o gefnogaeth bosibl sydd ei hangen arnoch.

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol