Neidio i'r prif gynnwy

Delwedd Corff Positif ymhlith Pobl Ifanc yn eu Harddegau

Efallai bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn cychwyn meddwl mwy am siâp eu corff a chymharu eu hunain â'u cyfoedion a phobl y byddant yn eu gweld ar gyfryngau cymdeithasol. Weithiau, gall hyn achosi teimladau negyddol amdanynt hwy eu hunain a newidiadau o ran sut maent yn teimlo am fwyd.

Gall y canlynol fod yn ddefnyddiol:

  • Meddyliwch am sut rydych chi’n siarad am bwysau a siâp o fewn y teulu – ceisiwch fodelu siarad yn bositif am edrychiad waeth beth fo pwysau neu siâp pobl.
  • Canmolwch aelodau'r teulu ar rinweddau heblaw ymddangosiad corfforol.
  • Cael sgyrsiau agored am ddelweddau cyfryngau cymdeithasol ac nad ydyn nhw'n adlewyrchu bywyd go iawn.
  • Rhoi sylw i werth maethol bwyd yn hytrach na faint o galorïau sydd ynddo.  
  • Peidio â chategoreiddio bwyd fel rhai 'da' neu 'ddrwg'.
  • Annog y teulu cyfan i fwyta diet cytbwys a gwneud cyfanswm iach o ymarfer corff

Dolenni ac adnoddau defnyddiol