Neidio i'r prif gynnwy

Opiadau (cyffuriau cwsg)

Rhoddir opiadau megis pethidin a diamorffin trwy bigiadau yn eich clun neu eich ffolen i helpu i leddfu poen. Gall opiadau wneud i chi deimlo'n swrth a gallent godi cyflog arnoch chi. Fel arfer, bydd y fydwraig yn cynnig meddygaeth atal cyfog i chi ar yr un pryd.

Yn gyffredinol, ni wnaiff eich bydwraig roi'r cyffuriau lleddfu poen hyn i chi yn agos at rannau olaf yr esgor oherwydd gall yr opiadau effeithio ar y baban oherwydd byddant yn treiddio'r brych. Mae'n bosibl y caiff eich baban ei eni wedi'i dawelyddu.

Bydd angen oddeutu 20 munud i'r cyffuriau hyn fod yn effeithiol ac ni wnânt ddiddymu'r poen yn llwyr. Bydd yr effeithiau yn para rhwng 2 a 4 awr. Os dymunwch ddefnyddio'r pwll geni, rydym yn argymell y dylech ddisgwyl 2-4 awr o leiaf ar ôl i chi gael y pigiad hwn.