Neidio i'r prif gynnwy

Epidwral

Mae epidwral yn gyffur anaesthetig lleol sy'n cael ei roi mewn cathetr tenau a gaiff ei osod yn eich meingefn. Mae'n ddull effeithiol o leddfu poen wrth esgor, a gan amlaf, bydd epidwral yn lleddfu poen yn llwyr. Bydd yn arbennig o ddefnyddiol os bydd y cyfnod esgor yn para'n hir neu'n gymhleth ac os bydd angen monitro eich baban yn fanwl.

Dim ond anesthetydd a all roi epidwral. Cysylltir diferwr â'ch llaw i roi hylifau i chi os bydd hynny'n ofynnol. Gofynnir i chi eistedd i lawr a phwyso ymlaen neu orwedd ar eich ochr â'ch penliniau yn agos at eich brest. Rhoddir anaesthetig lleol i chi i ferwino'r rhan o'r cefn ble gosodir yr epidwral. Yna, defnyddir nodwydd i osod tiwb plastig tenau (cathetr epidwral) yn eich meingefn ger y nerfau sy'n cludo negeseuon ynghylch poen i'ch ymennydd. Yna, tynnir y nodwydd o'i lle gan adael y cathetr yn eich meingefn fel y gellir rhoi'r feddyginiaeth lleddfu poen i chi trwy'r cathetr. Bydd yr epidwral yn cychwyn gweithio ymhen 20-30 munud. 

Bydd y cathetr yn ei le nes byddwch chi wedi geni'ch baban. Ar ôl gorffen rhoi'r epidwral, weithiau, bydd yr effeithiau yn parhau am ychydig oriau.