Neidio i'r prif gynnwy

Ffrwythau a llysiau

Mae llysiau a ffrwythau yn cyflenwi ystod eang o fitaminau, mwynau a ffibr. Dylech geisio annog eich plentyn i flasu o leiaf 5 gwahanol fath o ffrwythau a llysiau bob dydd. Cofiwch gynnwys dogn gyda phob pryd a byrbryd a chynnig amrywiaeth o liwiau i sicrhau cymysgedd da o faetholion gwahanol. O ran maint y dogn, argymhellir rhoi 40g i blant ifanc, neu'r un faint â'r hyn y gall plentyn ei ddal mewn un llaw. Gall ffrwythau a llysiau ffres, rhewedig, mewn tun (mewn sudd neu ddŵr dihalen) neu rai sych oll gyfrannu at y cyfanswm. Cofiwch olchi unrhyw ffrwythau a llysiau ffres.

Cynghorion Doeth

Peidiwch â phoeni os na fydd eich plentyn i'w weld yn mwynhau ffrwyth neu lysieuyn y tro cyntaf. Efallai bydd angen ei brofi 10 gwaith cyn iddo ddod i arfer â bwydydd, blasau ac ansoddau newydd. Byddwch yn amyneddgar a daliwch ati i gynnig amrywiaeth.

Dylid rhoi ffrwythau sych megis rhesins gyda phrydau i'ch plentyn, nid fel byrbryd, oherwydd gallai'r siwgr ynddynt bydru dannedd.

Mae sudd ffrwythau ffres yn cynnwys llawer o siwgrau rhydd a gallant beri niwed i ddannedd. Dŵr a llefrith yw'r diodydd gorau i blant ifanc. Os cynigir sudd ffrwythau, dylid ei weini gyda phrydau bwyd yn unig a dylid ei wanedu â llawer o ddŵr.

Mae piwrî ffrwythau mewn cydau yn cynnwys llawer i siwgrau rhydd. Gall cydau nodweddiadol gynnwys yr hyn sy'n cyfateb i dri llond llwy de o siwgr. Peidiwch â rhoi'r rhain fel byrbryd i'ch plentyn; dewiswch ffrwythau ffres, rhewedig, o dun neu wedi'u stiwio yn lle hynny.

Torrwch fwydydd bychan megis tomatos, grawnwin a mwyar duon yn chwarteri i leihau'r risg o dagu.