Neidio i'r prif gynnwy

Diodydd

Mae yfed digon yn bwysig i blant ifanc oherwydd maent yn fwy tebygol o ddadhydradu, yn enwedig pan fyddant yn fywiog a phan fydd hi'n boeth.

Dŵr a llefrith yw'r diodydd gorau i blant ifanc. Ar ôl iddynt droi'n 12 mis oed, gellir cyflwyno llefrith buwch cyflawn fel y brif ddiod llefrith a pharhau i'w roi iddynt nes byddant yn ddwy oed o leiaf. Gall plant sy'n hŷn na 2 oed yfed llaeth hanner sgim os ydynt yn bwyta deiet cytbwys iawn.  Anogwch eich plentyn i yfed dŵr tap plaen os bydd yn sychedig, a sicrhewch fod dŵr yfed ffres ar gael bob amser. Mae dŵr yn torri syched, ac nid yw'n difetha chwant bwyd nac yn gwneud difrod i ddannedd.

Mae diodydd meddal megis sgwash, cordial neu ddiodydd pefriog yn cynnwys llawer o siwgr, ac mae llawer ohonynt yn asidig. Gall y diodydd hyn beri niwed i ddannedd a chyflenwi calorïau gwag, ac nid ydynt yn elfen ofynnol yn neiet plentyn.

Yn fras, mae ar blant 1-5 oed angen oddeutu 7-8 cwpaned (100-150ml yr un) o hylif bob dydd. Cofiwch gynnig diod i'ch plentyn gyda phob prif bryd a byrbryd, a dylech ei annog i yfed dŵr yn rheolaidd yn ystod y dydd.

Cynghorion Doeth

Mae plant ifanc yn neilltuol o agored i bydredd dannedd, felly mae'n bwysig rhoi diodydd na wnaiff niweidio dannedd iddynt. Mae rhai diodydd di-siwgr yn asidig serch hynny, a gallant beri niwed i ddannedd plant. Dŵr a llefrith yw'r diodydd gorau i blant ifanc. Ni ddylid rhoi te, coffi, cola neu ddiodydd eraill sy'n cynnwys caffein i blant, oherwydd fe wnaiff hynny amharu ar eu cwsg. Nid yw te yn addas i blant da 5 oherwydd mae'n cynnwys tannin, sy'n amharu ar y gallu i amsugno haearn. Mae gweithwyr proffesiynol iechyd yn cytuno mai cwpanau heb gaead sydd orau i helpu plant i ddysgu sut i yfed ac maent yn fwy llesol i'w dannedd. Ceisiwch helpu eich plentyn i roi'r gorau i yfed o botel neu gwpan â chaead a chychwyn defnyddio cwpan 'rhyddlifo' neu gwpan heb gaead erbyn iddynt droi'n flwydd.