Neidio i'r prif gynnwy

Cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen

Mae cynnyrch llaeth megis llefrith, caws ac iogwrt a dewisiadau amgen yn lle'r rhain yn ffynonellau da o galsiwm, sy'n bwysig o ran datblygu esgyrn a'r dannedd. Mae'r bwydydd hyn hefyd yn cynnwys rhywfaint o brotein a maetholion buddiol eraill.

Mae angen i blant cyn-ysgol gael 3 dogn o lefrith a chynnyrch llaeth bob dydd. Mae enghreifftiau o un dogn yn cynnwys 15g o gaws Cheddar, 60g o iogwrt plaen, neu 100-150ml o laeth cyflawn. Dylid cynnig cynnyrch llaeth â braster llawn i blant sy'n iau na 2 oed oherwydd mae arnynt angen y braster a'r fitaminau ychwanegol y maent yn eu darparu. Gall plant sy'n hŷn na 2 oed yfed llaeth hanner sgim os ydynt yn bwyta deiet cytbwys iawn. Os nad yw eich plentyn yn cymryd cynnyrch llaeth, gallwch gynnig dewisiadau amgen heb eu melysu yr ychwanegwyd calsiwm atynt.

Cynghorion Doeth

Peidiwch â dewis iogwrt a fromage frais sy'n cynnwys llawer o siwgr. Os yw'r label yn nodi ei fod yn cynnwys mwy na 15g o siwgr fesul 100g, mae'n gynnyrch sy'n cynnwys llawer o siwgr. Mae'n well ychwanegu ffrwythau ffres, o dun, wedi'u stiwio neu rewedig at iogwrt neu fromage frais plaen.

Nid oes digon o fraster mewn llefrith sgim neu lefrith ag 1% o fraster, felly ni argymhellir rhoi hynny i blant dan 5 oed.

Nid oes ar blant dros 1 oed angen llefrith dilynol na llefrith cyfnerthedig i blant bach oherwydd mae llawer ohonynt wedi'u melysu ac efallai bydd cydbwysedd y maetholion yn amhriodol. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod y cynhyrchion hyn yn cynnig buddion ychwanegol o ran maeth i blant ifanc. Gall llefrith buwch cyflawn fod yn brif ddiod i blant ar ôl iddynt droi'n flwydd os nad ydynt yn cael llefrith o'r fron.