Neidio i'r prif gynnwy

Byrbrydau

Mae gan lawer o blant ifanc archwaeth bach ac mae arnynt angen prydau rheolaidd yn ogystal â 2-3 byrbryd bob dydd.

Mae byrbrydau yn bwysig i helpu i ddiwallu anghenion egni plant ac er mwyn iddynt gael y maetholion mae arnynt eu hangen. Mae'n ddefnyddiol ystyried mai 'prydau bychan' yw byrbrydau, yn defnyddio'r un bwydydd iach â'r prif brydau.

I helpu i atal pydredd dannedd, ni ddylai byrbrydau gynnwys llawer o siwgrau rhydd, a dylent gynnwys llawer o faetholion. Gall byrbrydau gynnwys unrhyw fwydydd o'r grwpiau yn y Canllaw Bwyta'n Dda ond dylid cynnig llysiau a/neu ffrwythau fel rhan o bob byrbryd.

Mae gwefan First Steps Nutrition Trust yn adnodd defnyddiol i gael syniadau am fyrbrydau iach.

Cynghorion Doeth

Gall prynu byrbrydau parod masnachol i blant fod yn demtasiwn, ond mae llawer o'r rhain yn ddrud ac yn cynnwys mwy o fraster, halen a siwgr na bwydydd heb eu prosesu neu rai sydd heb eu prosesu rhyw lawer. Bydd yn rhatach, yn iachach ac yn brofiad dysgu gwell i'ch plentyn os bydd y bwydydd a gynigir fel byrbrydau yn edrych ac yn blasu fel y bwydydd y byddant yn eu cael yn ystod prydau teuluol.

Gall annog eich plentyn i gyfranogi yn y gwaith o baratoi byrbrydau cartref eu helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â ffrwythau a llysiau gwahanol, ac mae'n debyg y byddant yn rhatach hefyd.