Neidio i'r prif gynnwy

Bwydydd sy'n llawn protein

Dylid cynnwys rhywfaint o fwydydd llawn protein megis ffa, ffacbys, wyau, cig neu ddewisiadau yn lle cig gyda'r prif brydau. Mae protein yn cynorthwyo i atgyweirio ac adnewyddu celloedd yn y corff yn ddyddiol, ond mae'r bwydydd hyn hefyd yn cynnwys haearn, sinc a fitaminau B. Mae ffa a ffacbys hefyd yn ffynonellau gwych o ffibr.

Dylai plant cyn-ysgol fwyta 2 ddogn o gig neu bysgod bob dydd neu 2 neu 3 dogn o ddewisiadau llysieuol amgen. Mae pysgod olewog megis eogiaid a sardinau yn ffynonellau gwych o asidau brasterog omega-3 - ceisiwch roi rhywfaint o bysgod brasterog i'ch plentyn unwaith yr wythnos.

Cyngor Doeth

Bwytwch lai o gynhyrchion cig a physgod wedi'u prosesu megis bwydydd wedi'u taenu â briwsion, bacwn, ham, byrgyrs, pasteiod, selsig a chig tun. Nid yw'r rhain yn ddewisiadau mor iach oherwydd cyfanswm yr halen a'r braster a ychwanegir wrth eu cynhyrchu.