Neidio i'r prif gynnwy

Bwydydd startsh

Mae bwydydd startsh yn cynnwys bara, tatws, grawnfwydydd brecwast, reis, pasta a nwdls. Maent yn ffynhonnell bwysig o egni a ffibr, a rhai fitaminau hefyd. Dylid cynnig y bwydydd hyn gyda phob pryd, a gellir eu cynnwys fel rhan o fyrbryd rhwng prydau.

Gallwch roi bwydydd grawn cyflawn i'ch plentyn, er enghraifft, bara a phasta gwenith cyflawn a reis brown. Fodd bynnag, gall gormod o ffibr arwain at amsugno maetholion yn wael a gall eich plentyn deimlo'n llawn cyn y bydd wedi bwyta popeth sydd ei angen.

Dylai plant dan 5 oed gael cynnig cymysgedd o fwydydd startsh gwyn a rhai sy'n cynnwys llawer o ffibr, a dylid cyflwyno mwy o fathau grawn cyflawn yn raddol ar ôl iddynt droi'n ddwy.

Cynghorion Doeth

Mae fitaminau a mwynau wedi'u hychwanegu at lawer o rawnfwydydd brecwast, ond cofiwch ddewis rhai sydd heb unrhyw siwgr wedi'i ychwanegu.