Gall dod yn rhiant newydd fod yn brofiad llethol. Byddwch yn ystyriol o sut rydych yn teimlo a chymerwch amser i edrych ar eich ôl eich hun a’ch anghenion. Dyma rai awgrymiadau hunangymorth i’ch cynorthwyo chi i ddod yn rhiant newydd:
Gall gwneud cysylltiadau a meithrin cyfeillgarwch gyda rhieni newydd eraill fod yn galonogol. Fe allech ganfod cysur mewn rhannu eich teimladau a’ch profiadau gyda rhieni eraill sydd wedi bod drwy’r un peth.
Byddwch yn canfod nad ydych ar eich pen eich hun a bydd llawer o rai eraill yn profi pryderon a rhwystredigaethau tebyg. Gall hyn eich helpu chi i fagu hyder fel rhiant i ddod neu fel rhiant newydd.
Mae grwpiau babi yn ffordd wych o ymlacio i’r gymuned, yn enwedig os ydych yn nerfus am fynychu yn y dechrau neu o fod o gwmpas pobl newydd. Gallech fynychu grwpiau wedi eu trefnu megis tylino babi, teithiau pram neu grwpiau canu ar gyfer rheini a babis.
Mae llawer o weithgareddau a grwpiau ar draws Gogledd Cymru. Gallwch ofyn i’ch Ymwelydd Iechyd am ragor o wybodaeth am grwpiau yn eich ardal leol neu edrych ar y dolenni hyn:
Mae grwpiau cynenedigol lleol ar gael i’r rheiny sy’n disgwyl babi. Gofynnwch i’ch Bydwraig neu Feddyg Teulu am ragor o wybodaeth am grwpiau ar gael o fewn eich ardal.
Fe all meddwl am fwydo eich babi ar y fron pan fyddwch yn mynd allan deimlo ychydig yn frawychus ar y dechrau ond gall ychydig o gynllunio a pharatoi wneud i chi deimlo’n fwy hyderus. Mae cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron yn nodi lleoliadau yng Ngogledd Cymru sy’n annog yn weithredol ac yn cynorthwyo merched i fwydo ar y fron.
Mae Ymwelwyr Iechyd wedi eu hyfforddi i adnabod a chynorthwyo gydag anawsterau iechyd meddwl mamau. Chi yw beirniad gorau eich teimladau ac a yw’r rhain yn arferol i chi.
Dywedwch wrth eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg sut rydych yn teimlo. Cofiwch na fydd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn eich beirniadu chi. Byddant yn canolbwyntio ar eich helpu i ganfod y driniaeth a’r cymorth gorau.
Rydym yn deall pa mor brysur y gall hi fod yng ystod eich beichiogrwydd neu unwaith y mae’r babi wedi ei eni. Mae’n bwysig eich bod yn edrych ar eich ôl eich hun a’ch lles meddyliol. Ceisiwch ychwanegu’r awgrymiadau canlynol i’ch rwtîn:
Gall gweithgareddau megis cerdded hefyd annog rhyngweithio cymdeithasol a rhoi hwb i iechyd meddwl yn gyffredinol. Gall hyn fod yn fynd am dro gyda phram, pilates ysgafn neu ioga gartref. Gall gweithgarwch corfforol helpu i roi hwb i’ch endorffinau a rhoi mwy o egni i chi. Ewch i ganfod mwy o wybodaeth am fuddion bod yn actif.
Gall rhai rhieni brofi nosweithiau di-gwsg gyda’u babi, a all ei gwneud hi’n anodd cael noson dda o gwsg. Gall gwneud amser i orffwys pryd bynnag y cewch gyfle wneud gwahaniaeth.
Ceisiwch gymryd cyntun yn ystod y dydd pan mae eich babi yn cysgu. Gallech ofyn i’ch partner, ffrind neu deulu helpu i fwydo eich babi yn ystod y nos.
Gall dyddiau cynnar bod yn rhiant fod yn anodd gan eich bod chi a’ch babi yn dod dros yr enedigaeth. Os ydych yn cael trafferth bwydo eich babi ar y fron, cofiwch ei bod yn sgil sydd angen ei dysgu gan y ddau ohonoch chi. Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau,allwch chi ddim disgwyl ei wneud iawn yn syth.
Mae’n bwysig gadael i chi eich hun gael amser i wneud pethau sy’n caniatáu i chi deimlo’n dda
Mae’r Pum Ffordd at Les yn gamau syml y gallwn eu cymryd i edrych ar ôl ein iechyd meddwl a’n lles.
Myfyriwch ar beth sydd wir yn eich helpu chi i ddadflino. P’un a yw’n ddarllen llyfr, gwylio’r teledu, gwneud ychydig o grefft, rhywfath o weithgarwch corfforol neu gael bath – caniatawch beth amser a gofod i chi eich hun wneud hyn.
Mae bwyta’n dda yn bwysig i chi. Bydd yn eich helpu i wella ar ôl y geni ac yn rhoi’r egni i chi ofalu am eich babi newydd. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am fwyta'n iach fel mam newydd yn y llyfr digidol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'n naturiol y bydd y rhan fwyaf o rieni newydd yn teimlo rhyw fath o orbryder a theimladau cymysg yn ystod yr wythnosau cyntaf wrth i chi addasu i'ch rolau newydd. Fodd bynnag, os bydd hyn yn straen cyson, ac yn effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae’n bosibl y byddwch chi, eich partner, eich ffrind neu’ch aelod teulu angen cefnogaeth a chymorth ychwanegol.