Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y geg yn ystod beichiogrwydd

Dewiswch fyrbrydau iach a cheisiwch gyfyngu bwyd a diod llawn siwgr i amser bwyd yn unig.

Os nad yw hylendid y geg yn dda, gall newidiadau hormonaidd yn ystod beichiogrwydd achosi i'ch deintgig chwyddo a gwaedu wrth gael ei frwsio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn brwsio'ch dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd sy'n cynnwys 1350-1500ppm o fflworid. Ar ôl brwsio'ch dannedd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n poeri, peidiwch â rinsio eich ceg.

Os ydych chi'n dioddef o salwch boreol ac yn cael pyliau o chwydu, rinsiwch eich ceg â dŵr, ond peidiwch â brwsio'ch dannedd yn syth.